Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl

Person walking through a door into a colourful room with yellow and red quotes on the wall.
Person walking through a door into a colourful room with yellow and red quotes on the wall.
Two people holding hands across a white table. Next to them is a pot of purple flowers.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n ystyriol o drawma ledled Gwent i helpu unigolion a theuluoedd i ddod o hyd i ddiogelwch a byw eu bywydau heb ofn. 

Mae ein holl wasanaethau yn cael eu darparu gan staff profiadol a chymwys sydd yn arbenigwyr yng nghymorth cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Mae ein ffocws ar rymuso pobl i adnabod eu cryfderau, adfer o’u profiadau ac ail-adeiladu eu bywydau. 

Mae ein cefnogaeth yn gyfrinachol ac anfeirniadol. Byddwn yn eich helpu i gael mynediad at y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch, ac yn rhoi’r lle i chi wneud y dewisiadau cywir i chi. 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl

Bydd ein cymorth bob amser yn addas i’ch anghenion

Mae enghreifftiau o’r cymorth a ddarparwn ar draws amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys: 

  • Cymorth un i un 

  • Cynllunio ar gyfer diogelwch 

  • Llety diogel 

  • Cymorth dros y ffôn 

  • Cymorth ynglŷn â’r Llys Teulu 

  • Help i wneud eich cartref eich hun yn fwy diogel 

  • Cymorth gyda’r broses heddlu

  •  Cymorth grŵp 

  • Help gyda materion arian a chyllid 

  • Cymorth i gael mynediad i gyngor cyfreithiol 

  • Cymorth ac eiriolaeth gydag asiantaethau statudol, megis gwasanaethau cymdeithasol 

  • Cwnsela a therapïau eraill 

  • Cymorth eiriolaeth arbenigol i’r rhai sy’n profi trais a gyflawnir gan yr heddlu

  • Cymorth ac eiriolaeth gyda thai 

  • Cymorth i gael mynediad at fudd-daliadau lles, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth 

  • Atgyfeiriadau a chyfeirio at wasanaethau eraill y gallai fod eu hangen arnoch 

Dysgwch ragor am ein gwasanaethau:

A grid of colourful handmade prints featuring hearts, rainbows, flowers and patterned designs, created during a wellbeing arts activity using a printmaking technique.

Grwpiau Cymorth Trais Rhywiol Horizon

Grwpiau cymorth teuluoedd a chymheiriaid sy’n dod â phobl gyda phrofiadau a rennir ynghyd i gefnogi ei gilydd

Gweld y gwasanaeth

Gwasanaeth Cymorth Camfanteisio Horizon

Prosiect arbenigol ar gyfer oedolion a phobl ifanc sy’n profi camfanteisio rhywiol neu ariannol ar hyn o bryd, neu sydd mewn perygl ohono.

Gweld y gwasanaeth

Pecyn Cymorth Adfer Trai Rhywiol Gwaith Grwp

Rhaglen 12 wythnos sy'n helpu goroeswyr, sydd mewn sefyllfa i gymryd rhan mewn grŵp, i ddod i brosesu eu profiadau a datblygu strategaethau ffordd o fyw ac ymdopi cadarnhaol.

Gweld y gwasanaeth

Pecyn Cymorth Adfer Gwaith grŵp

Rhaglen 12-wythnos sy'n helpu cyfranogwyr i ddeall effaith cael profiad o gam-drin domestig.

Gweld y gwasanaeth
Gweld pob un
Woman with curly brown hair on the phone calling to access Cyfannol Women's Aid services

Ffoniwch ni

Gall ein staff cymorth gynnig cyngor drwy 03300 564456 yn ystod oriau swyddfa (Llun-Gwen 09:30am-04:30pm). Y tu allan i oriau swyddfa, gellir defnyddio ein rhif ffôn i gyrchu gwybodaeth a chyngor mewn argyfwng. 

Cysylltwch â ni ar-lein

Gofynnwch am alwad yn ôl o’n tîm gwasanaethau cymorth yn eich ardal

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan