Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Dod yn Ymddiriedolwr Cyfannol

The legs of five people standing in a semicircle on a green carpet. They're wearing colourful shoes.
The legs of five people standing in a semicircle on a green carpet. They're wearing colourful shoes.

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fenywod a phlant y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt? 

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn chwilio am bobl ymrwymedig i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Mae Cyfannol yn sefydliad gyda chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth ei galon. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned; menywod a dynion.  Serch hynny, anogwn yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n nodi bod ganddynt nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys aelodau ein cymuned Pobl Ddu, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, yn ogystal ag unigolion ag anableddau, sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli o fewn ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.  

Ni yw’r sefydliad Cymorth i Fenywod cysylltiedig mwyaf yng Nghymru, yn cwmpasu Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen ac ardal ehangach Gwent, yn gweithio i roi terfyn ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).  

Ein cenhadaeth yw darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu harwain gan unigolion ac sy’n ystyriol o drawma ledled Gwent, i unrhyw berson, yn enwedig menywod neu blant, sydd wedi profi unrhyw fath o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol, waeth beth fo’u hanghenion a’r sawl anfantais y maent yn eu hwynebu. 

Mae bod yn Ymddiriedolwr yn golygu dod â’ch mewnwelediadau, gweledigaeth a chymorth eich hun i’n sefydliad. Mae gan bawb sgiliau a phrofiadau a allai fod yn ddefnyddiol – sgiliau proffesiynol; profiad uniongyrchol neu anuniongyrchol o gam-drin domestig neu drais rhywiol; neu yn syml adnabod ein hardal yn dda. 

Mae bod yn ymddiriedolwr i Cyfannol wedi bod yn brofiad penigamp. Mae’n wych i fod yn rhan o rywbeth sy’n gwneud gwaith mor ffantastig, ac rwyf wedi dysgu llawer yn y ddwy flynedd diwethaf. 

Ceri, Ymddiriedolwr Cymorth i Fenywod Cyfannol

Rydym yn chwilio am bobl:

  • sy’n ymrwymedig i sicrhau bod cymorth ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac sy’n frwdfrydig am hawliau menywod a phlant i fyw a mwynhau eu bywydau mewn amgylchedd diogel.  

  • sy’n credu ac yn cefnogi’r egwyddorion a’r gwerthoedd sydd wrth wraidd gwaith Cymorth i Fenywod Cyfannol.

  • sydd eisiau bod yn rhan o wasanaeth i fenywod, sy’n delio ag effeithiau cam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod.  

  • sydd ar gael i fynychu cyfarfodydd yn rheolaidd.*    

    Mae cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys cyfarfodydd Bwrdd Llawn a dau gyfarfod is-grŵp, ac mae un ohonynt yn cyfarfod bob mis ar gylch treigl (o 5:30pm tan tua 7:30pm), sy’n golygu bod y rhan fwyaf o Ymddiriedolwyr yn mynychu un cyfarfod dau o bob tri mis.  Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd hyn o bell ar-lein, er bod cyfarfodydd yn bersonol yn digwydd yn achlysurol.  

  • sy’n fodlon dysgu am y sefydliad a mynychu hyfforddiant a digwyddiadau eraill i gynnal y wybodaeth hon.  

  • sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm.  

  • sy’n gallu dysgu gan eraill, yn ogystal â rhannu eu sgiliau eu hunain.  

  • sy’n hyderus, yn gallu mynegi barn, yn ogystal â bod yn fodlon i archwilio gwaith y sefydliad.  

  • sy’n gallu gwrando ar ddadl a chadw at benderfyniad, hyd yn oed os maen nhw’n anghytuno gyda’r canlyniad. 

Yn gyfnewid, byddwch yn ennill y cyfle i:

  • Wneud gwahaniaeth i fenywod a phlant sy’n profi, neu wedi profi o’r blaen, cam-drin domestig a thrais rhywiol  

  • Cymryd rhan mewn rhwydweithiau newydd  

  • Datblygu sgiliau presennol  

  • Ennill sgiliau newydd  

  • Cael mewnwelediadau a phersbectifau unigryw 

Mae bod yn rhan o Fwrdd Ymddiriedolwyr Cyfannol yn fraint enfawr ac yn rôl rwy’n ei mwynhau’n fawr. Mae’r tîm yn Cyfannol yn anhygoel ac mae pob un ohonynt wedi’u hymrwymo i wneud gwahaniaeth ym mywydau cynifer o bobl. Rwy’n hynod falch o fod yn Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr am flwyddyn arall, gan gefnogi’r gwaith gwych y mae staff yn ei wneud ar gyfer goroeswyr trais rhywiol a domestig mewn rôl sy’n hynod werthfawr. 

Cat, Cadeirydd Ymddiriedolwyr, Cymorth i Fenywod Cyfannol

Meddwl y gallai'r rôl hon fod yn addas i chi? 

Cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol neu becyn recriwtio 

 

E-bostiwch ni

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan