Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Cyfrannu

Row of seven people wearing black Cyfannol hoodies. Three of them are holding signs - one says 'Giving Tuesday', the other has £1,232.15 and the third has 'Together we are stronger'.
Row of seven people wearing black Cyfannol hoodies. Three of them are holding signs - one says 'Giving Tuesday', the other has £1,232.15 and the third has 'Together we are stronger'.

Yr hyn gallai’ch cyfraniad wneud

Yellow circle with a £5 in the middle of it in white.

Gallai cyfrannu £5

ein helpu i ddarparu cerdyn Sim ffôn symudol i fenyw sy’n ceisio ffoi rhag cam-drin. 

Yellow circle with a £15 in the middle of it in white.

Gallai cyfrannu £15

ein helpu i ddarparu sesiwn cymorth un i un 

Yellow circle with a £30 in the middle of it in white.

Gallai cyfrannu £30

ein helpu i ddarparu trafnidiaeth i deulu i ddod i un o’n mannau lloches. 

Yellow circle with a £50 in the middle of it in white.

Gallai cyfrannu £50

ein helpu i ddarparu sesiwn therapi chwarae i blentyn neu berson ifanc sydd wedi profi cam-drin. 

Yellow circle with a £100 in the middle of it in white.

Gallai cyfrannu £100

ein helpu i ddarparu offer diogelu cartref i fenyw deimlo’n ddiogel yn ei chartref ei hun. 

Ffyrdd eraill i gyfrannu

Dylid gwneud sieciau’n daladwy i “Cymorth i Fenywod Cyfannol” a’u postio atom yn:  

Cymorth i Fenywod Cyfannol, 3 Town Bridge Buildings, Park Road, Pont-y-pŵl NP4 6JE 

Gallwch alw heibio un o’n swyddfeydd i wneud rhodd. Mae gennym 4 swyddfa ar draws Gwent felly gwiriwch ein tudalen Ymweld â Ni i ddod o hyd i’r swyddfa sydd agosaf atoch. 

Mae PayPal Giving Fund, elusen wedi’i chofrestru yn y DU, yn codi arian i elusennau’r DU trwy helpu pobl i gefnogi eu hoff elusennau ar-lein. Maent yn helpu elusennau i godi arian trwy PayPal a phlatfformau technoleg eraill gan gynnwys Humble Bumble, GoFundMe a Facebook. 

Os byddwch yn rhoi i ni drwy PayPal Giving Fund ni fydd unrhyw ffioedd yn cael eu codi a byddwn yn derbyn 100% o’ch rhoddion. 

Gallwch hefyd gyfrannu i ni ar ein gwefan a dewis PayPal fel eich opsiwn talu. 

Gallwch gyfrannu at Cymorth i Fenywod Cyfannol dros y ffôn trwy ein ffonio ar 03300 564456 neu gyfrannu atom trwy anfon neges destun ar eich ffôn symudol. 

Tecstiwch CYFANNOL i 70085* i gyfrannu unrhyw swm llawn hyd at uchafswm o £20 fesul neges destun, trwy roi’r swm perthnasol ar ôl y gair CYFANNOL. 

Er enghraifft: 

CYFANNOL5 = rhodd £5 

CYFANNOL8 = rhodd £8 

CYFANNOL15 = rhodd £15 

*Bydd negeseuon testun yn costio swm y rhodd ac un neges gyfradd rhwydwaith safonol, a byddwch yn optio i mewn i glywed mwy gennym ni. Os hoffech chi gyfrannu ond dydych chi ddim eisiau clywed mwy gennym ni, anfonwch neges destun at CYFANNOLNOINFO yn lle hynny, gyda’r swm perthnasol yr ydych am ei gyfrannu ar ôl y gair. 

Noson cwis neu gemau rhithwir. Her ymarfer corff yn y cartref neu arwerthiant pobi Nadoligaidd. Bydd pob ceiniog a godwch yn ein helpu i rymuso menywod a phlant i fyw bywyd heb gam-drin domestig.  

Anfonwch unrhyw arian rydych wedi’i godi atom yn ddiogel drwy unrhyw un o’r opsiynau uchod. 

Mae Rhodd Cymorth yn gynllun gan y llywodraeth sy’n ein galluogi i adennill y dreth gyfradd sylfaenol a dalwch fel trethdalwr yn y DU. 

Mae’n golygu y gallwn hawlio 25c o dreth am bob £1 a roddwch, heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi datganiad Cymorth Rhodd. 

Gallwch wneud hyn drwy: 

ticio’r blwch Cymorth Rhodd pan fyddwch yn cyfrannu 

cwblhau ein ffurflen Cymorth Rhodd ar-lein 

ffonio 03300 564 456 i wneud datganiad dros y ffôn 

Ar ôl ei gwblhau, cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch statws treth, gan gynnwys newidiadau i’ch enw a’ch cyfeiriad, fel y gallwn sicrhau na wneir unrhyw hawliadau pellach yn erbyn eich rhoddion. 

Pam mae pobl wedi cyfrannu

Chloe

“Cefais werthiant o fy nghrochenwaith ac roeddwn i eisiau cyfrannu rhywfaint o’r arian i’ch apêl. Ni allaf ddychmygu pa mor anodd yw hi i rai menywod a’u plant, felly rwy’n gobeithio y bydd y cyfraniad bach hwn yn helpu.” 

Alison

“Am bopeth yr ydych wedi ei wneud i mi ac i oroeswyr eraill. Mae Horizon a’r staff yn achubwyr bywydau, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi pob un ohonoch chi.” 

Emma

“Cynigais ddosbarthiadau Ioga 1 awr ar-lein ym mis Rhagfyr ar gyfer Cymorth i Fenywod Cyfannol oherwydd ni ddylai unrhyw fenyw deimlo nad oes ganddi unman i fynd” 

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan