Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
I wneud y byd yn le gwell a mwy diogel i bawb, mae angen i ni gyd chwarae ein rhan ym mha bynnag ffordd y gallwn. Gall hynny fod drwy wirfoddoli eich amser neu sgiliau ar gyfer achos sy’n bwysig i chi, neu gallai fod mor syml â bod yn garedig â dieithriaid rydych chi’n cwrdd â nhw yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Ond gallwch hefyd helpu i wneud gwahaniaeth drwy roi’r hyn a gallwch i elusen.
Efallai eich bod yn meddwl, pam rhoi i elusen? Er ein bod yn hoffi credu y gallwn wneud gwahaniaeth ar ein pen ein hunain, weithiau gallwn wneud mwy gyda’n gilydd. Mae’r ffordd y mae elusennau wedi’u strwythuro yn caniatáu iddynt ddefnyddio’r arian a godir i helpu pobl sydd ei angen yn uniongyrchol ar raddfa fwy nag y gallwn fel unigolion.
Ac os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae arian rydych chi’n ei roi yn cael ei ddefnyddio, rydyn ni’n agored ac yn onest a gallwch ddod o hyd i ddolen isod i ddangos beth rydyn ni’n ei wneud gyda’ch rhoddion. Gallwch bob amser edrych ar ein hadroddiad blynyddol diweddaraf i gael sicrwydd bod rhoddion a wnaed i’r elusen yn helpu eu buddiolwyr yn weithredol.
o ddioddefwyr sydd wedi defnyddio’n cefnogaeth fwy o hyder wrth adrodd i’r heddlu.
o’r bobl rydyn ni wedi’u cefnogi wedi dangos gwelliant yn eu hiechyd corfforol a meddyliol
o blant rydyn ni wedi’u cefnogi yn teimlo bod ganddynt berthnasoedd diogel ac iach o’u cwmpas
Os hoffech dalu i mewn eich casgliad ar ôl codi arian neu os ydych am gyfrannu.
Edrych am ysbrydoliaeth codi arian? Cymerwch olwg ar rai syniadau i gychwyn arni.
Un o’r pethau mwyaf effeithiol y gallwch chi ei wneud i helpu menywod a phlant i ddianc rhag perthnasoedd camdriniol yw gadael rhodd yn eich ewyllys. Dysgwch beth all y math hwn o rodd ei gyflawni.
Dechreuwch godi arian trwy hyrwyddo eich digwyddiad. Rydym wedi llunio casgliad o gyhoeddiadau i’ch helpu i gychwyn arni!
P’un a ydych am redeg marathon, cerdded 10K neu seiclo drwy gymoedd Cymru, ymgymerwch â her rymusol i’n cefnogi.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n ein cefnogi ni’n ariannol. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn onest ynglŷn â sut rydyn ni’n cael ein hariannu a’n rheoli.
“Fe wnes i ennill cymaint o hyder trwy’r gefnogaeth ges i. Allwn i ddim bod yn fwy diolchgar am bopeth rydych chi wedi’i wneud i fi a fy mab.”
“Doeddwn i erioed wedi rhagweld y byddai angen i mi ymweld â Cymorth i Fenywod yn ystod fy oes, ond pan syrthiodd fy myd yn ddarnau un diwrnod a gwnaeth fy meddyg fy atgyfeirio yma i gael cymorth, dyma’r lle mwyaf cefnogol i mi fod erioed.”
Oeddech chi’n gwybod pryd bynnag y byddwch chi’n prynu unrhyw beth ar-lein – o’ch siop fwyd i’ch gwyliau blynyddol – y gallech fod yn codi rhoddion am ddim i Cymorth i Fenywod Cyfannol gyda EasyFundraising?
Mae anfon cerdyn cyfarch traddodiadol yn costio amser, arian, a’n planed. Gallwch bellach gefnogi Cymorth i Fenywod Cyfannol wrth anfon e-gardiau at eich anwyliaid – drwy Don’t Send Me A Card. Croesawir unrhyw roddion.