Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae Cynllunio ar gyfer Diogelwch yn ffordd o’ch helpu chi i amddiffyn eich hun a’ch plant. Mae’n golygu cael cynllun diogelwch personol ymlaen llaw ar gyfer y posibilrwydd o drais a chamdriniaeth yn y dyfodol, gan eich helpu i feddwl am sut y gallwch gynyddu eich diogelwch naill ai o fewn y berthynas, neu os byddwch yn penderfynu gadael.
Ni allwch atal trais a chamdriniaeth eich partner – dim ond nhw all wneud hynny. Ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i gynyddu eich diogelwch eich hun (a’ch plant). Mae’n debyg eich bod eisoes yn gwneud rhai pethau i amddiffyn eich hun a’ch plant. Os oes patrwm i’r cam-drin rydych yn ei brofi, efallai y bydd hyn yn eich galluogi i gynllunio ymlaen llaw er mwyn cynyddu eich diogelwch.
FFONIWCH 999
Pa bynnag strategaethau ymdopi rydych chi wedi’u defnyddio – gyda mwy neu lai o lwyddiant – efallai y daw amser pan fyddwch chi’n teimlo mai’r unig opsiwn yw gadael.
Os penderfynwch adael, mae’n well cynllunio hyn yn ofalus. Gweler ein tudalen Meddwl am Adael am ragor o wybodaeth
Os ydych yn pryderu am eich diogelwch eich hun/eich plant neu rywun arall, ffoniwch 999
Os byddwch yn gadael eich partner oherwydd cam-drin, efallai na fyddwch am i bobl wybod y rheswm pam y gadawoch.
Eich penderfyniad chi yw a ydych yn dweud wrth bobl eich bod wedi dioddef cam-drin domestig ai peidio; ond os ydych yn credu y gallech fod mewn perygl o hyd, gallai gynyddu eich diogelwch os byddwch yn dweud wrth eich teulu a’ch ffrindiau, ysgol eich plant, a’ch cyflogwr neu goleg am yr hyn sy’n digwydd, fel nad ydynt yn anfwriadol yn rhoi unrhyw wybodaeth i’ch cyn-bartner. Byddant hefyd yn fwy parod ac yn gallu eich helpu’n well mewn argyfwng.
Os ydych wedi gadael cartref, ond yn aros yn yr un dref neu ardal, dyma rai o’r ffyrdd y gallech gynyddu eich diogelwch:
Os ydych wedi symud i ffwrdd o’ch ardal, ac nad ydych am i’ch camdriniwr wybod ble rydych chi, yna mae angen i chi gymryd gofal arbennig gydag unrhyw beth a allai ddangos eich lleoliad; er enghraifft:
Rhaid i unrhyw un sydd am gofrestru ei fanylion yn ddienw ddarparu tystiolaeth megis gorchymyn o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 neu Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997. Os caniateir cais, dim ond rhif etholiadol person a’r llythyren N sydd gan y manylion sy’n ymddangos ar y gofrestr.
Os byddwch yn aros neu’n dychwelyd i’ch cartref ar ôl i’ch partner adael, yna mae’n debygol y bydd gennych Orchymyn Diogelu Cam-drin Domestig (DAPO) neu orchymyn meddiannaeth.
Os oes pwerau arestio ynghlwm wrth y waharddeb, gwnewch yn siŵr bod gan eich gorsaf heddlu leol gopi, a bod yr heddlu’n gwybod bod angen iddynt ymateb yn gyflym mewn argyfwng.
Mae’n bwysig gwybod nad oes rhaid i chi aros gartref – gyda neu heb waharddeb – os nad ydych yn teimlo’n ddiogel yno.
Gallech hefyd ystyried y canlynol:
Adnoddau:
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i oedolion a phlant sydd wedi cael profiad o gam-drin domestig neu drais rhywiol
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i oedolion a phlant sydd wedi cael profiad o gam-drin domestig neu drais rhywiol.
Gall ein staff cymorth gynnig cyngor drwy 03300 564456 yn ystod oriau swyddfa (Llun-Gwen 09:30am-04:30pm). Y tu allan i oriau swyddfa, gellir defnyddio ein rhif ffôn i gyrchu gwybodaeth a chyngor mewn argyfwng.
Gofynnwch am alwad yn ôl o’n tîm gwasanaethau cymorth yn eich ardal