Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Cwcis

Gwybodaeth am eich defnydd o gwcis: 

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach sy’n cael eu lawrlwytho a’u storio ar eich dyfais (ffôn, gliniadur, llechen, ac ati) pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Defnyddir cwcis i helpu perchennog y wefan (yn yr achos hwn, Cymorth i Fenywod Cyfannol) i roi profiad esmwyth i chi wrth i chi bori. 

Gall y Wefan hon osod a chael mynediad at rai Cwcis ar eich cyfrifiadur. Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn defnyddio Cwcis i wella eich profiad o ddefnyddio’r Gwefan. Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol wedi dewis y Cwcis hyn yn ofalus ac wedi cymryd camau i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu a’i barchu bob amser. 

Defnyddir yr holl Gwcis a ddefnyddir gan y wefan hon yn unol â Chyfraith gyfredol y DU. 

Cyn i’r Wefan osod Cwcis ar eich cyfrifiadur, byddwch yn gweld bar neges yn gofyn am eich caniatâd i osod y Cwcis hynny. Trwy roi eich caniatâd i osod Cwcis, rydych yn galluogi Cymorth i Fenywod Cyfannol i ddarparu gwell profiad a gwasanaeth i chi. Gallwch, os dymunwch, wrthod caniatâd i osod Cwcis; serch hynny efallai na fydd rhai nodweddion o’r Wefan yn gweithio’n llawn nac yn ôl y bwriad. 

Gall y Wefan hon yn osod y Cwcis canlynol: 

Cwcis sy’n hollol angenrheidiol: Mae’r rhain yn gwcis sydd eu hangen ar gyfer gweithrediad ein gwefan. Maen nhw’n cynnwys, er enghraifft, cwcis sy’n eich galluogi i fewngofnodi i fannau diogel o’n gwefan, i ddefnyddio basged siopa neu ddefnyddio gwasanaethau bilio’n electronig. 

Cwcis dadansoddol/perfformiad: Maen nhw’n ein galluogi i adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas ein gwefan wrth iddynt ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella’r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft, trwy sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i’r hyn y maen nhw’n chwilio amdano yn hawdd. 

Cesglir Data Technegol a Data Defnydd trwy Google Analytics pan fyddwch yn pori’n Gwefan. Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur a gwerthuso traffig ar y Wefan, a chreu adroddiadau llywio defnyddwyr ar gyfer gweinyddwyr ein Gwefan. Mae Google yn gweithredu’n annibynnol oddi wrthym ni ac mae ganddo ei bolisi preifatrwydd ei hun, yr ydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn ei adolygu. Mae’n bosib y bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir trwy Google Analytics i werthuso gweithgarwch Defnyddwyr ac Ymwelwyr ar ein Gwefan. Am ragor o wybodaeth, gweler Preifatrwydd a Rhannu Data Google Analytics. Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio ar sail angen gwybod yn unig i ddatrys materion technegol, gweinyddu’r Gwefan a nodi dewisiadau ymwelwyr. Mae Google hefyd yn cyhoeddi ychwanegyn porwr i’ch galluogi i ddewis nad yw gwybodaeth am eich ymweliad â’r gwefan yn cael ei hanfon at Google Analytics. 

Ar nifer o dudalennau rydym yn defnyddio ychwanegion neu gyfryngau wedi’u plannu. Er enghraifft, efallai y byddwn yn plannu fideos YouTube ar dudalennau. Gall cyflenwyr y gwasanaethau hyn hefyd gosod cwcis ar eich dyfais pan fyddwch yn ymweld â’r tudalennau lle rydyn ni wedi defnyddio’r math hwn o gynnwys. Gelwir y rhain yn cwcis ‘trydydd parti’. I optio allan o drydydd partïon yn casglu unrhyw ddata yn gysylltiedig â’ch rhyngweithio ar ein gwefan, ewch i’w gwefannau am ragor o wybodaeth. 

Ni fyddwn yn defnyddio cwcis i gasglu data personol amdanoch chi. Serch hynny, os dymunwch gyfyngu neu rwystro’r cwcis sydd wedi’u gosod gan ein gwefannau, neu yn wir unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn drwy eich gosodiadau porwr. Dylai’r swyddogaeth ‘Help’ yn eich porwr ddweud wrthych sut. Fel arall, efallai yr hoffech ymweld â www.aboutcookies.org sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr ar sut i wneud hyn ar amrywiaeth eang o borwyr. Byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion ar sut i ddileu cwcis 

Gallwch ddewis galluogi neu analluogi Cwcis yn eich porwr rhyngrwyd. Yn ddiofyn, mae’r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd yn derbyn Cwcis ond gellir newid hyn. Am ragor o fanylion, ewch i’r ddewislen help yn eich porwr rhyngrwyd. 

Gallwch ddewis dileu Cwcis ar unrhyw bryd; serch hynny efallai y byddwch yn colli unrhyw wybodaeth sy’n eich galluogi i gyrchu’r Wefan yn gyflymach ac yn fwy effeithlon gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gosodiadau personoleiddio. 

Argymhellir eich bod yn sicrhau bod eich porwr rhyngrwyd wedi’i diweddaru a’ch bod yn darllen y cymorth a chanllawiau a ddarperir gan ddatblygwr eich porwr rhyngrwyd os ydych yn ansicr ynghylch addasu eich gosodiadau preifatrwydd. 

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan