Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Fel gwirfoddolwr hanesion, gallwch ddangos i oroeswyr eraill cam-drin domestig a thrais rhywiol nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain. Gall eich hanes hefyd ysbrydoli pobl i godi arian i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol, a’n helpu i fwyhau’r lleisiau goroeswyr i godi ymwybyddiaeth.
P’un a gawsoch gefnogaeth yn ddiweddar neu flynyddoedd yn ôl, byddem wrth ein bodd yn clywed amdano, ac yn rhannu eich profiad i annog eraill i estyn allan am help.