Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Meddwl am adael?

Person with dark hair gazing out the window of a car.
Person with dark hair gazing out the window of a car.

Os ydych yn meddwl am adael camdriniwr, gallwn eich helpu i ddeall eich opsiynau a gwneud cynllun.  

Nid yw cynllunio am adael yn golygu bod yn rhaid i chi adael ar unwaith – neu o gwbl. Ond efallai y byddai’n ddefnyddiol gallu ystyried yr opsiynau i gyd a meddwl sut y gallech oresgyn yr anawsterau dan sylw. 

Yn ogystal â chael cymorth, efallai y byddwch am ystyried: 

Creu bag argyfwng

Os yw’n ddiogel ei wneud heb sylw eich camdriniwr, cadwch fag gyda rhywfaint o arian parod, dogfennau pwysig (gan gynnwys tystysgrifau geni, pasbortau, tystysgrifau priodas, dogfennau tenantiaeth/morgais/car, dogfennau adnabod, rhif yswiriant gwladol, trwydded yrru), set o allweddi, rhai dillad (i chi/eich plant), unrhyw feddyginiaeth, gwefrydd ffôn a rhifau argyfwng. Gellid cadw hwn yn ddiogel yn nhŷ cymydog neu ffrind, fel y gallwch adael ar frys a chael eich hanfodion o hyd. 

 

Gwneud cynllun

Meddyliwch am arferion eich partner a dewiswch amser diogel i adael eich cartref. Ystyriwch ble y bydd, a chynlluniwch lwybr diogel. Ceisiwch sicrhau bod gennych eich allwedd eich hun i’r tŷ a chadwch ychydig o arian yn ddiogel ar gyfer tacsis neu docynnau bws, a galwadau ffôn. 

Ystyriwch sut y byddwch yn casglu pethau a all fod yn werthfawr i chi/eich plant, os gallwch wneud hynny’n ddiogel, e.e. hoff deganau a dillad, lluniau, gemwaith. 

Os oes gennych blant yn yr ysgol, gwnewch yn siŵr bod y pennaeth a holl athrawon eich plant yn gwybod beth yw’r sefyllfa, a phwy fydd yn casglu’r plant yn y dyfodol. 

Trefnu lle i aros

Gallai hwn fod yn gartref i ffrind neu aelod o’r teulu y gallwch ymddiried ynddo, ond gwnewch yn siŵr nad yw’ch camdriniwr yn gwybod y lleoliad. Neu efallai yr hoffech fynd i loches. Fel menyw sy’n dianc o gam-drin domestig, gallwch geisio am gyngor tai o unrhyw awdurdod lleol hyd yn oed os nad ydych yn byw yn yr ardal leol. 

Ystyriwch ffyrdd y gallent eich olrhain

Mae’n bwysig meddwl am yr holl ffyrdd y gallai’ch partner ddarganfod ble rydych chi. Er enghraifft, os ydych yn meddwl y gallai eich partner gyrchu eich ffôn neu eich negeseuon, gallwch ddefnyddio ffôn ffrind i wneud trefniadau i adael, neu brynu ‘burner phone’ rhad. Yn yr un modd efallai y bydd angen i chi ddileu unrhyw chwiliadau ar eich hanes rhyngrwyd sy’n ymwneud â chwilio am gefnogaeth. Dylech hefyd ddiffodd unrhyw osodiadau canfod lleoliad ar eich ffôn. Gallwch ddod o hyd i ragor o awgrymiadau ar gadw eich technoleg yn ddiogel ac i leihau’r risg o olrhain yma. 

Hand gripping a black door handle.

Diogelwch pan fyddwch yn barod i adael

Gall y cynllun diogelwch hwn eich helpu os ydych yn meddwl am adael. Gallwch neu lawrlwytho, cadw neu argraffu. Os byddwch yn lawrlwytho, cofiwch wneud hynny’n ddiogel a sicrhewch na all eich camdriniwr gyrchu’r wybodaeth hon. 

Gallwch argraffu’r ddogfen hon a’i rhoi i ffrind neu aelod o’r teulu y gallwch ymddiried ynddo i’w chadw’n ddiogel os ydych yn byw gyda’ch camdriniwr. 

Ffoniwch ni

Gall ein staff cymorth gynnig cyngor drwy 03300 564456 yn ystod oriau swyddfa (Llun-Gwen 09:30am-04:30pm). Y tu allan i oriau swyddfa, gellir defnyddio ein rhif ffôn i gyrchu gwybodaeth a chyngor mewn argyfwng. 

Cysylltwch â ni ar-lein

Gofynnwch am alwad yn ôl o’n tîm gwasanaethau cymorth yn eich ardal

Archwilio ein gwasanaethau

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i oedolion a phlant sydd wedi cael profiad o gam-drin domestig neu drais rhywiol. 

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan