Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae’r Pecyn Cymorth Adfer Cam-drin Domestig i Oedolion yn rhaglen waith grŵp 12 wythnos sy’n helpu cyfranogwyr i ddeall effaith cael profiad o gam-drin domestig ac yn galluogi menywod i gael y wybodaeth sydd ei hangen i adfer o’i effeithiau.
Mae’r rhaglen yn egluro sut mae unigolion yn cael eu hatal rhag gadael perthnasoedd camdriniol a’r patrymau meddwl sy’n cael eu datblygu fel dull o reoli’r risg a all eu dal yn ôl wrth symud ymlaen. Mae cryfderau, adnoddau, sgiliau ymdopi a gwydnwch yr unigolyn yn cael eu cryfhau, sy’n cyfrannu at iechyd a lles ar sail hir dymor.
Mae rhaglen Pecyn Cymorth Adfer Cam-drin Domestig yn addas ar gyfer menywod nad ydynt mewn perthynas camdriniol ar hyn o bryd. Mae ei fodel seico-addysgol sy’n ystyriol o drawma wedi’i gynllunio i fod yn seiliedig ar gryfderau a meithrin sgiliau. Y nod yw, trwy roi gwybodaeth i unigolion, y gallant ddeall ac ymdrin yn well â’u profiadau blaenorol.
I lawer o fenywod, gall y cwrs fod yn gam nesaf ar ôl cwblhau’r Cwrs Own My Life.
Rhoddir strategaethau ymarferol i gyfranogwyr y rhaglen i’w helpu i ffynnu yn eu bywydau bob dydd trwy ddatblygu gwydnwch, cynyddu gobaith a galluogi adferiad.
I atgyfeirio i’r gwasanaeth, gwnewch ymholiad, neu i ddod o hyd i ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 03300 564456 neu e-bostiwch ein swyddfa leol: