Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Preifatrwydd

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn ymroddedig i gadw’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel a bod yn glir am sut rydym yn casglu’ch data, sut rydym yn ei storio a’r hyn rydym yn ei wneud ag ef. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol p’un a ydych eisiau cael gwybodaeth, cymorth neu hyfforddiant gennym ni, defnyddio ein gwasanaethau, cyfrannu atom, gweithio neu ymgyrchu drosom. 

 

Cofrestrwyd Cymorth i Fenywod Cyfannol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UE) 2016/679 fel rheolydd data gyda’r rhif Z1003218. Gellir gweld manylion llawn y rhestriad hwn ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Rhif elusen gofrestredig Cymorth i Fenywod Cyfannol yw 1045890 ac ein rhif cwmni yw 02995805 (cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr). 

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn, ynghyd â’n polisi Cwcis, Gwybodaeth Gwasanaeth a Thelerau ac Amodau’r wefan yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn casglu, defnyddio ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Hysbysiad Preifatrwydd, cysylltwch â’n tîm data: 

  • Trwy e-bost: info@cyfannol.org.uk 
  • Trwy’r post: Swyddog Diogelu Data, Cymorth i Fenywod Cyfannol, 3 Town Bridge Buildings, Park Road, Pont-y-pŵl NP4 6JE 

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn defnyddio unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu gan ddefnyddio ffurflenni ar-lein neu ar y wefan hon i allu anfon cyfathrebiad ynglŷn â Cyfannol a allai fod o ddiddordeb i chi atoch, naill ai’n electronig neu fel arall. Mae ‘gwybodaeth bersonol adnabyddadwy’ yn wybodaeth sy’n ein galluogi i’ch adnabod, megis eich cyfeiriad e-bost, enw, teitl a chyfeiriad. 

Mae’n bosib y bydd y polisi hwn yn newid o bryd i’w gilydd, felly dewch yn ôl i wirio yn gyfnodol. 

1.Pa wybodaeth y mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn ei chasglu? 

Mae Gwybodaeth bersonol y gall Cymorth i Fenywod Cyfannol ei chasglu, ei hun neu drwy drydydd partïon, yn cynnwys: 

  • Enw, cyfeiriad a gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn/ffôn symudol 
  • Enw eich sefydliad neu gyflogwr, eu cyfeiriad a manylion cyswllt 
  • Teitl eich swydd neu eich ardal gwaith 
  • Manylion ariannol, gwybodaeth trethdalwr y DU (at ddibenion Rhodd Cymorth), gwybodaeth cerdyn credyd/debyd a chofnodion ymatebion i ymgyrchoedd 
  • Sut y daethoch o hyd i ni neu sut y clywsoch am ein gwasanaethau neu ddigwyddiadau 
  • Os ydych erioed yn ymweld â’n hadeiladau, sydd â systemau teledu cylch cyfyng ar waith er diogelwch defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr a staff. Mae’n bosib y bydd y systemau hyn yn recordio’ch delwedd yn ystod eich ymweliad. 

Ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth mae gennym ffurflenni caniatâd penodol ac rydym yn defnyddio system rheoli achosion i storio’n ddiogel, sydd wedi’i warchod gan gyfrinair. 

Mae’n bosib y byddwn yn casglu ac yn storio’r mathau canlynol o wybodaeth bersonol: enw, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, rhif ffôn neu ffôn symudol, statws perthynas, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, manylion ariannol, gwybodaeth cerdyn credyd/debyd, manylion am eich addysg a’ch gyrfa. 

Caiff mathau penodol o wybodaeth bersonol eu hadnabod yn fwy ‘sensitif’ gan y gyfraith diogelu data. Mae pethau megis cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad hiliol neu ethnig, barn grefyddol neu wleidyddol, data yn ymwneud â’ch iechyd (meddyliol neu gorfforol) neu’ch bywyd rhywiol yn disgyn i’r categori hwn. Bydd Cymorth i Fenywod Cyfannol ond yn casglu gwybodaeth bersonol fel hyn lle mae’n hysbysu darpariad y gwasanaeth i chi. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth bersonol os byddwch yn dewis rhannu’ch profiadau â ni ar gyfer astudiaeth achos, ond byddwn ond yn gwneud hyn gyda’ch caniatâd echblyg. 

2. Sut ydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi? 

Bydd data personol perthnasol yn cael ei gasglu: 

  • yn uniongyrchol gennych chi (e.e. trwy ofyn i chi gwblhau ffurflen atgyfeirio, neu siarad â chi naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.) 
  • pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan neu’n rhyngweithio â ni ar-lein 
  • gan asiantaethau eraill gan gynnwys yr heddlu, asiantaethau iechyd, awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, ac asiantaethau diogelu. 

Gwybodaeth y rhoddwch i ni yn uniongyrchol 

Os byddwch yn rhoi arian, yn gofyn am wasanaethau neu gynhyrchion, neu’n cymryd rhan yn ein hymgyrchoedd, mae’n bosib y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth bersonol rydych chi wedi’i darparu. Mae’n bosib y bydd data hefyd yn cael ei gasglu trwy geisiadau neu ffurflenni; prisiau; anfonebau; archebion prynu; contractau; cytundebau lefel gwasanaeth; o gyfathrebiad gyda chi; neu drwy gyfweliadau, cyfarfodydd, neu asesiadau eraill. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gennych chi pan fyddwch yn adrodd am broblem gyda’n gwefan neu os byddwch yn cwblhau arolwg yr ydym yn defnyddio at ddibenion ymchwil. 

Byddwn yn casglu ac yn storio gwybodaeth y rhoddwch i ni pan fyddwch yn gwneud y pethau canlynol ar ein gwefan (neu pan fyddwch yn rhoi caniatâd i asiantaeth berthnasol i gyflwyno gwybodaeth ar eich rhan chi): 

  • Gwneud ymholiad 
  • Gofyn am alwad yn ôl gan aelod o’n tîm 
  • Cofrestru i gefnogi ymgyrch 
  • Cefnogi ein gwaith trwy rodd 
  • Codi arian i ni 
  • Adrodd eich hanes wrthym. 
  • Rhoi adborth i ni neu wneud cwyn 
  • Ymgeisio am swydd neu weithio gyda ni 
  • Cofrestru fel gwirfoddolwr 
  • Ymrwymo i gontract gyda ni 
  • Rhannu lluniau neu fideos 

Mae’n bosib y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gan unrhyw asiantaeth sydd wedi eich cyfeirio atom. 

Os ydych wedi’ch cyflogi gan asiantaeth ac yn cysylltu â ni ar ran rhywun arall, byddwn hefyd yn casglu ac yn storio’r wybodaeth a roddwch i ni amdanoch chi eich hun. Bydd y wybodaeth hon yn gyfyngedig i’ch enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ynghyd ag enw a chyfeiriad yr asiantaeth gyfeirio. 

Bydd rhywfaint o’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu gan apiau trydydd parti sydd wedi’u hintegreiddio yn ein gwefan. Am wybodaeth bellach, gweler adrannau 4, 5 a 6 o’r datganiad hwn. 

Lle nodir hynny mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a roddwch i gysylltu â chi yn y dyfodol am waith Cymorth i Fenywod Cyfannol. Os nad ydych eisiau i hyn ddigwydd, ticiwch y blwch priodol lle darperir. 

Gwybodaeth y rhoddwch i ni yn anuniongyrchol 

  • Rydym yn storio data am eich ymweliadau â’n gwefan, er enghraifft eich data lleoliad (gweler ein polisi Cwcis am wybodaeth bellach). 
  • Rydym yn storio gwybodaeth am sut rydych yn llywio ein  gwefan, er ni ellir defnyddio hyn i’ch adnabod yn bersonol Cwcis am wybodaeth bellach). 
  • Cesglir Data Technegol a Data Defnydd trwy Google Analytics pan fyddwch yn pori’n Gwefan. Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur a gwerthuso traffig ar y Wefan, a chreu adroddiadau llywio defnyddwyr ar gyfer gweinyddwyr ein Gwefan. Mae Google yn gweithredu’n annibynnol oddi wrthym ni ac mae ganddo ei bolisi preifatrwydd ei hun, yr ydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn ei adolygu. Mae’n bosib y bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir trwy Google Analytics i werthuso gweithgarwch Defnyddwyr ac Ymwelwyr ar ein Gwefan. Am ragor o wybodaeth, gweler Preifatrwydd a Rhannu Data Google Analytics. 
  • Mae’n bosib y byddwn hefyd yn casglu ac yn storio’ch gwybodaeth bersonol os byddwch yn rhyngweithio â ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, Twitter a LinkedIn. Bydd hyn yn dibynnu ar eich gosodiadau preifatrwydd eich hun ar y sianeli unigol hynny, felly sicrhewch eich bod yn gwirio’r rhain yn gyntaf. 

Os ydych chi’n berson ifanc 14 oed neu’n iau 

Rhaid i chi gael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad cyn darparu unrhyw wybodaeth bersonol i ni. 

3. Sut ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol: 

  • Darparu gwybodaeth, cyngor neu wasanaethau i chi 
  • Eich cyfeirio at wasanaethau priodol 
  • Eich diogelu chi, eich plant neu oedolion agored i niwed 
  • Cefnogi atal neu ddatgelu troseddau 
  • Prosesu rhoddion untro neu reolaidd a hawlio Cymorth Rhodd. 
  • Cynnal cysylltiadau 
  • Rhannu hanesion goroeswyr sydd wedi cael eu cyflwyno i ni at y diben hwn 
  • Gwneud ein hymgyrchoedd marchnata yn fwy perthnasol ac wedi’u targedu’n well i ddarpar gleientiaid a rhoddwyr; byddwn ond yn anfon gwybodaeth farchnata atoch yn y cyd-destun hwn os byddwch wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny. 
  • Anfon gwybodaeth am ein gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau i rhanddeiliaid neu bartneriaid presennol yr ydym wedi casglu eu gwybodaeth gyswllt dros gyfnod ein perthynas â hwy. 
  • Rhannu straeon newyddion da a gwybodaeth allweddol o’r sector Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ehangach, y credwn y gallai fod o ddiddordeb i chi. 
  • Ymateb i geisiadau uniongyrchol pan fyddwch yn cysylltu â ni – byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i ymateb. 
  • Cyflawni tasgau gweinyddol cyffredinol megis delio â chwynion ac adborth, a chadw cofnodion hanfodol. 
  • Masnachu: byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i gymryd taliadau gennych wrth brosesu archebion a thaliadau am nwyddau a gwasanaethau. 
  • Cadw chi’n ddiogel: os ydym yn meddwl yn rhesymol eich bod chi (neu rywun arall) mewn perygl o niwed difrifol neu gamdriniaeth. 
  • Cynnal polau piniwn, arolygon ac ymchwil: efallai y byddwn yn eich gwahodd i gymryd rhan fel y gallwn wella ein gwefan, gwasanaethau a/neu ddatblygiad strategol. 
  • Monitro a gwerthuso: rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i hysbysu a datblygu ein darpariaeth gwasanaeth. 
  • Gwella eich profiad o’n gwefan, fel y gallwn gynnig llywio gwefan sy’n fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr i chi. 
  • Prosesu ceisiadau i weithio yn Cymorth i Fenywod Cyfannol: er enghraifft, os byddwch yn cwblhau ffurflen gais neu’n anfon eich CV atom, neu os byddwch yn anfon gwybodaeth atom yn hapfasnachol mewn perthynas â chyfleoedd contract posibl. 
  • Proffilio a dadansoddi cefnogwyr: mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i’n helpu i dargedu cyfathrebiad yn well, fel eich bod yn fwy tebygol o dderbyn cyfathrebiad sy’n berthnasol i’ch diddordebau. 

Y seiliau cyfreithlon a ddefnyddiwn i brosesu eich data personol yw: 

  • Cyflawni contract – os byddwn yn ymrwymo i gontract gyda chi, byddwn yn prosesu gwybodaeth i weinyddu’r contract hwnnw 
  • Cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau cyfreithiol – weithiau byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol. Er enghraifft, darparu gwybodaeth treth a chymorth rhodd i CThEF yn y DU. 
  • Buddiant cyfreithlon – mae ein buddiannau cyfreithlon yn ein galluogi i gwrdd â’n hamcanion elusennol. Mae hyn yn cynnwys llywodraethu a rheolaeth weithredol, cyhoeddusrwydd a chynhyrchu incwm, gweinyddiaeth a rheolaeth ariannol 
  • Cydsyniad – pan fyddwn yn gofyn am eich cydsyniad i brosesu eich gwybodaeth bersonol at ddiben penodol yr ydym yn ei gyfleu i chi. Pan fyddwch yn cydsynio i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol at ddiben penodol, gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg a byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu eich data at y diben hwnnw. 

4. Cyfathrebiad gan Cymorth i Fenywod Cyfannol 

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn dosbarthu newyddlen reolaidd trwy Mailchimp, yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn a pholisi preifatrwydd Mailchimp 

Gallwch ddiweddaru’ch dewisiadau neu ddad-danysgrifio o’r newyddlen hon ar unrhyw adeg. 

Gallwch hefyd ddewis rhoi’r gorau i dderbyn cyfathrebiad gan Cymorth i Fenywod Cyfannol ar unrhyw adeg drwy anfon hysbysiad o’r penderfyniad i’r manylion cyswllt canlynol: 

5. Gwybodaeth Codi Arian 

Pan fyddwch yn cyfrannu atom mae angen i ni gasglu rhywfaint o’ch gwybodaeth bersonol. Byddwn bob amser yn casglu, defnyddio ac yn storio’ch data’n gyfrifol, ac yn sicrhau bod eich data wedi’i ddiogelu. 

Rydym yn defnyddio Go Cardless, Donorfy a Stripe i brosesu rhoddion i Cymorth i Fenywod Cyfannol. 

Maen nhw’n casglu gwybodaeth ar ein rhan ni i brosesu’ch rhodd. Rydym yn sicrhau bod y cyflenwyr rydym yn gweithio â hwy yn dilyn cyfreithiau prosesu data. Gallwch ddarllen mwy am bolisïau preifatrwydd a diogelu data pob sefydliad trwy’r dolenni canlynol: 

Y wybodaeth y gallant ei chasglu a’i storio ar ein rhan yw: 

  • data i’ch adnabod, megis eich enw, enw defnyddiwr neu’ch dyddiad geni – er enghraifft, os byddwch yn rhoi arian 
  • eich manylion cyswllt, megis cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post a rhif ffôn – er enghraifft, i allu prosesu rhodd, hawlio Cymorth Rhodd neu os byddwch yn cofrestru i dderbyn cyfathrebiadau gennym 
  • data ariannol, megis manylion eich banc neu gerdyn – fel y gallant brosesu eich rhodd ar ein rhan 
  • data marchnata, fel eich dewisiadau o ran sut rydym yn cyfathrebu â chi 
  • eich rheswm dros roi arian a diddordebau penodol yn ymwneud â gwaith Cymorth i Fenywod Cyfannol – mae hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod ein cyfathrebiad â chi yn berthnasol 
  • cofnodion o’ch hanes gyda ni, gan gynnwys data trafodion, manylion eich rhodd 

Rydym weithiau’n derbyn rhoddion trwy blatfformau rhoi arian trydydd parti (e.e. Just Giving). Cyfeiriwch at eu polisïau nhw i ddarganfod sut maen nhw’n cadw’ch data yn ddiogel. 

Mae’n bosib y byddwn yn lawrlwytho’r data canlynol o’n darparwyr trydydd parti i’n galluogi i gyfathrebu â chi os byddwch wedi gofyn i ni roi’r diweddaraf i chi am ein gweithgareddau codi arian neu ein gwaith: 

  • Data i’ch adnabod, sy’n cynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn 
  • Gwybodaeth am eich rhoddion, gan gynnwys sawl gwaith rydych chi wedi cyfrannu atom, symiau’r rhoddion a p’un a ydych wedi ychwanegu Cymorth Rhodd at eich rhodd (ond nid ydym yn gweld unrhyw ddata ariannol, megis eich manylion banc neu gerdyn) 
  • data marchnata, fel eich dewisiadau o ran sut rydym yn cyfathrebu â chi 
  • eich rheswm dros roi arian a diddordebau penodol yn ymwneud â gwaith Cymorth i Fenywod Cyfannol – mae hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod ein cyfathrebiad â chi yn berthnasol 
  • cofnodion o’ch hanes gyda ni. Nid ydym yn gweld dim o’ch data ariannol (hynny yw manylion banc neu gerdyn) sy’n ymwneud â’ch rhoddion sydd wedi’u prosesu ar ein rhan neu y mae platfform rhoi arian trydydd parti yn eu prosesu ar ein rhan ni. 

6. Gwybodaeth Recriwtio 

Os byddwch yn ymgeisio am swydd gyda Cymorth i Fenywod Cyfannol, byddwn yn defnyddio eich data personol i brosesu’r cais hwn: er enghraifft, os byddwch yn cwblhau ffurflen gais neu’n anfon eich CV atom, neu os byddwch yn anfon gwybodaeth atom yn hapfasnachol mewn perthynas â chyfleoedd contract posibl. 

Gweinyddir ein proses ymgeisio ar-lein gan Talos 360 ac mae’n destun i’r polisi preifatrwydd hwn. 

7. Am ba hyd byddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth bersonol? 

Yn Cymorth i Fenywod Cyfannol, rydym wedi ymrwymo i gadw eich gwybodaeth bersonol am ddim hwy nag sydd angen mewn perthynas â’r diben y’i casglwyd ar ei gyfer gyntaf. Mae hyn yn unol â chanllawiau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’n bosib y bydd Cymorth i Fenywod Cyfannol yn cadw rhai mathau o ddata am hyd at saith mlynedd. 

Er enghraifft, yn achos trafodion ariannol fel rhoddion a phryniannau, byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyhyd ag sy’n ofynnol yn gyfreithiol o ran dibenion treth neu gyfrifyddu, a allai fod hyd at chwe blynedd ar ôl i drafodiad ddigwydd. 

Rydym yn cadw eich data personol at ddibenion cyfathrebu cyhyd ag y dymunwch dderbyn newyddlenni gennym ni. Os byddwch yn penderfynu optio allan o’n newyddlen neu dynnu eich cydsyniad yn ôl, ni fyddwn yn defnyddio’ch data personol at y diben hwn mwyach. 

8. A ydych chi’n rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw un arall? 

Byddwn ond yn rhannu eich data pan fydd angen a phan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Byddwn bob tro yn rhannu’r maint lleiaf o ddata sy’n ofynnol. 

Weithiau mae angen i ni rannu eich data gyda sefydliadau eraill. Ar gyfer materion sy’n ymwneud â’n gwasanaethau cymorth, efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol â: 

  • Phartneriaid MARAC – ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig risg uchel (gyda neu heb ganiatâd) 
  • Yr Heddlu – at ddiben atal a datgelu trosedd. Rydym yn eich annog i adrodd troseddau yn uniongyrchol i’r Heddlu bob amser, ond os oes angen adrodd am drosedd i’r Heddlu i’ch diogelu chi, neu bobl eraill, mae’n rhaid i ni rannu gwybodaeth. 
  • Unigolion a sefydliadau eraill, pe bai rhannu yn helpu gyda mater diogelu, neu’n helpu i atal trosedd. Weithiau gallwn rannu eich data heb yn wybod ichi. 

Rydym yn defnyddio cyflenwyr trydydd parti i gasglu gwybodaeth ar ein rhan, i gefnogi ein gweithgareddau cyfathrebu, codi arian a recriwtio. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach uchod – yn adrannau 4, 5 a 6 o’r datganiad hwn. Ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn rhentu eich data i drydydd partïon nac yn rhannu eich data â thrydydd partïon at ddibenion marchnata. 

9. Cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel 

Mae gennym ni fesurau diogelwch digidol a gweithredol i sicrhau bod eich data yn ddiogel yn Cymorth i Fenywod Cyfannol. Mae mynediad at wybodaeth yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i gyfyngu i’r bobl hynny sydd wir angen ei chyrchu, a rhoddir caniatâd iddynt wneud hynny. 

Mae holl ffurflenni gwe ar-lein Cymorth i Fenywod Cyfannol wedi’u diogelu gan amgryptio diogel o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r wybodaeth bersonol a gasglwn gennych ar-lein yn cael ei storio gennym ni ar gronfeydd data a ddiogelir trwy reolaethau mynediad, technoleg mur gwarchod a mesurau diogelwch priodol eraill. 

Fodd bynnag, mae risgiau cynhenid i drosglwyddo gwybodaeth dros rwydweithiau cyhoeddus a ni all Cymorth i Fenywod Cyfannol warantu diogelwch y data sy’n cael ei drin yn y modd hwn 100%. 

Lleolir gweinyddwyr gwe Cymorth i Fenywod Cyfannol yn Lloegr. 

10. Eich hawliau a rheoli eich data eich hun 

Mae gennych nifer o hawliau o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Gellir dod o hyd i’r rhain ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/individual-rights/. 

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, e-bostiwch info@cyfannol.org.uk. Neu os yw’n well gennych, gallwch wneud y cais yn ysgrifenedig i: Swyddog Diogelu Data, Cymorth i Fenywod Cyfannol, 3 Town Bridge Buildings, Park Road, Pont-y-pŵl NP4 6JE. 

Sut i wneud cwyn 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn neu’r ffordd y mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn trin eich gwybodaeth bersonol, neu os hoffech wneud cwyn, anfonwch gais trwy e-bostio info@cyfannol.org.uk. Neu os yw’n well gennych, gallwch wneud y cais yn ysgrifenedig i: Swyddog Diogelu Data, Cymorth i Fenywod Cyfannol, 3 Town Bridge Buildings, Park Road, Pont-y-pŵl NP4 6JE. 

Os nad ydych chi’n fodlon â’n hymateb, gallwch godi’ch pryder yn uniongyrchol â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF 

Fel arall, gallwch ymweld â gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. 

Cofrestrwyd Cymorth i Fenywod Cyfannol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UE) 2016/679 fel rheolydd data gyda’r rhif Z1003218. 

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd 

Gall ein Hysbysiad Preifatrwydd newid o bryd i’w gilydd, felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i weld a ydym wedi cynnwys unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau, a’ch bod yn hapus â nhw. 

(Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 2023) 

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan