Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Rydym yn adeiladu dyfodol i bobl fyw yn rhydd o Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol gyda thîm sy’n gryfach gyda’i gilydd.
Gweld Pob SwyddMae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn elusen sy’n datblygu gyda dros 40 mlynedd o brofiad yn cefnogi’r rhai y mae VAWDASV yn effeithio arnynt.
Ein gweledigaeth yw i bawb gael eu grymuso i ffynnu mewn bywyd sy’n rhydd o VAWDASV. Mae ein timau yn gweithio’n ddiflino 365 diwrnod y flwyddyn i gefnogi’r rhai sydd eu hangen.
Ein cenhadaeth yw darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu harwain gan unigolion ac sy’n ystyriol o drawma ledled Gwent, i unrhyw berson, yn enwedig menywod a phlant, sydd â phrofiad o unrhyw fath o VAWDASV, waeth beth fo’u hanghenion a’r sawl anfantais y maent yn eu hwynebu.
Ein huchelgais yw datblygu popeth a wnawn trwy wrando, dysgu, gwerthuso ac addasu.
Gweld ein Fframwaith GwerthoeddRwyf wedi cael amrywiaeth eang o swyddi dros y 40 mlynedd diwethaf, gan gynnwys yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ond gallaf ddweud yn onest mai Cyfannol yw’r lle gorau rydw i wedi gweithio ynddo – pobl wych, swydd werth chweil, ac rydw i wir yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi am yr hyn rydw i’n ei wneud.
Dewch o hyd i ni ar Instagram @Cyfannol
Dechreuais yn y gwasanaeth yn ddiweddar fel Gweithiwr Cymorth Pobl Ifanc yn y Gymuned. Mae wedi ehangu fy set sgiliau a gwybodaeth bresennol ac wedi fy helpu i nodi’r hyn rydw i eisiau gweithio tuag ato yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae’r tîm mor rymusol ac wedi fy nghefnogi i ddatblygu a setlo mor gyflym ag y gwnes i.
Ers ymuno â Cyfannol, rwyf wedi cael sawl cyfle i ddefnyddio a gwella fy sgiliau a gwybodaeth bresennol. Mae Cyfannol yn ymfalchïo yn annog a chefnogi staff i gyrraedd eu potensial fel eu bod yn gymwys i rymuso a chefnogi eraill.