Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Gweithio ag asiantaethau eraill

Two sets of hands touching palms.

Rydym yn gwerthfawrogi ein holl bartneriaethau ac rydym yn falch o’r perthnasoedd gweithio rhagorol rydym wedi eu datblygu – o fewn Gwent a ledled Cymru – dros y blynyddoedd 

Rydym yn Gryfach Gyda’n Gilydd yng Ngwent

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn bartner blaenllaw yn ymagwedd ledled Gwent i fynd i’r afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a hyrwyddo cyfranogiad gyda gwasanaethau cymorth.

Rydym wedi’n hintegreiddio i fyrddau aml-asiantaeth VAWDASV ar lefel rhanbarthol a lleol, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru o fewn Gwent.

Y Mudiad Cymorth i Fenywod yng Nghymru

Fel aelod o Cymorth i Fenywod Cymru, rydym yn cynnal perthnasoedd agos gyda sefydliadau VAWDASV ledled Cymru, gan weithio gyda’n gilydd i rannu arferion gorau a sicrhau bod profiadau ac anghenion goroeswyr yng nghanol popeth a wnawn fel sector.

Rydym yn falch i fod yn rhan o’r undeb hon o sefydliadau arbenigol yng Nghymru, drwy ddarparu gwasanaethau sy’n achub bywydau i oroeswyr o drais a cham-drin pob dydd.

Gwneud gwahaniaeth gyda’n gilydd

Rydym yn aelodau o wahanol sefydliadau, ar lefel lleol a chenedlaethol, sy’n ein helpu i wneud gwahaniaeth mwy gyda’n gilydd. Mae’r aelodaethau hyn yn ein helpu i fwyhau ein llais, adeiladu rhwydweithiau, rhannu a datblygu arfer da, a chyrchu hyfforddiant a chymorth staff: 

Ein prosiectau partneriaeth:

Rydym bob amser yn croesawu cyfleoedd i gyflawni nodau a rennir a gweithio gyda sefydliadau o’r un meddwl. Oherwydd hyn, caiff nifer o’n prosiectau eu darparu ar sail partneriaeth:

Ar Trac

Darperir ar draws 10 ardal, mewn partneriaeth a Chymorth i Fenywod Caerdydd, Calan DVS, DAS Gorllewin Cymru a Gorwel.

Two women standing in front of a Police car.

Allgymorth Pendant

Mae ein partneriaeth gyda Heddlu Gwent yn darparu cymorth i ddioddefwyr o gam-drin domestig ar adegau argyfwng.

Boost

Gweithio gyda’r Wallich, St Giles Trust a phartneriaid allweddol eraill i ddarparu rhaglen cynghorydd cymheiriaid.

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan