Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Gwirfoddoli

Two hands pulling on a string connected to a beaded bracelet.
Two hands pulling on a string connected to a beaded bracelet.
A person in black holding their arm in the air while a person in white ties a bracelet onto their wrist.

Gwirfoddoli gyda Ni

Fel sefydliad elusennol, rydym yn dibynnu ar gyfraniad hanfodol ein gwirfoddolwyr i gefnogi rhai o’n prosiectau.

Mae pob un o’n lleoliadau gwirfoddoli yn destun gwiriad DBS uwch ac rydym yn darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth barhaus i sicrhau eich bod yn teimlo wedi’ch cefnogi ac yn hyderus yn eich rôl o fewn y tîm.

Rhestrir ein holl gyfleoedd gwirfoddoli isod.

Ar gyfer swyddi gwag, ewch i’n tudalen Gyrfaoedd 

Manteision Gwirfoddoli

Mae cymaint o fanteision i wirfoddoli – i’r unigolion sy’n gwirfoddoli ac i fuddiolwyr eu cefnogaeth.

Fel gwirfoddolwr â Cyfannol, gallwch:

  • Wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau eich cymuned/unigolion 

  • Datblygu sgiliau newydd ac adeiladu eich hunan hyder 

  • Bod yn rhan o dîm a chysylltu â phobl newydd 

  • Derbyn hyfforddiant arbenigol a goruchwyliaeth reolaidd 

Mae bod yn fentor am y 15 mis diwethaf wedi bod yn ffantastig! Mae gwybod y gall rhoi rhywfaint o’ch amser wneud cymaint o wahaniaeth i ddyfodol rhywun yn anhygoel! Mae mor foddhaus ac mae’r staff wedi bod mor gefnogol yn ystod yr hyfforddiant ac ymlaen i’r mentora ei hun! Mor gyffrous i weld beth sydd i ddod y flwyddyn nesaf.

Mentor Gwirfoddol

Cyfleoedd Gwirfoddoli:

Mentoriaid gwirfoddol

Mae ein mentoriaid gwirfoddol yn gweithredu fel person o gysondeb i blant sy’n ymwneud â’n prosiectau mentora, gan eu helpu i osod nodau cadarnhaol a chynnig anogaeth, canmoliaeth a phositifrwydd, gan arwain at berson ifanc ymaddasedig, hapus, hyderus a phositif.

Rydym yn chwilio’n arbennig am wirfoddolwyr gwrywaidd, ond rydym hefyd yn croesawu diddordeb gan fenywod.

Cwnselwyr gwirfoddol

Mae ein gwasanaeth cwnsela trais rhywiol Horizon yn cael ei gefnogi gan wirfoddolwyr cwnsela, y mae llawer ohonynt yn gweithio tuag at gymwysterau cwnsela.

Rydym yn derbyn cwnselwyr gwirfoddol ar Lefel 4 i gefnogi’r prosiect trais rhywiol arbenigol hwn.

Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Camfanteisio Horizon

Mae ein tîm camfanteisio yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi gyda’u sesiynau allgymorth gyda’r nos yng Nghasnewydd.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Ymddiriedolwyr

Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr; menywod a dynion. Serch hynny, anogwn yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n nodi bod ganddynt nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys aelodau ein cymuned Pobl Ddu, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, yn ogystal ag unigolion ag anableddau, sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli o fewn ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Darganfod mwy am ddod yn Ymddiriedolwr Cyfanno

Peer group support

Ymholiad Gwirfoddoli

Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni 

Cysylltu â ni ar-lein

Pecyn gwybodaeth mentora

Math o gyhoeddiad: Llyfryn Lawrlwytho eitem
Gweld pob un

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan