Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Un o’n prif heriau yw cael pobl i siarad am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
Yn y gorffennol, roedd cam-drin domestig yn cael ei weld fel mater preifat rhwng dau berson, gyda phobl eraill sy’n agos at y sefyllfa yn aml yn anwybyddu’r hyn oedd yn digwydd neu’n esgusodi’r gamdriniaeth. Serch hynny, mae cam-drin, rheoli neu orfodi partner neu aelod o’r teulu yn erbyn y gyfraith, ac rydym wedi dechrau sylweddoli y gallwn ni gyd chwarae rhan
Mae annog dealltwriaeth gryfach yn allweddol i gefnogi pobl i geisio cymorth a grymuso’r rhai hynny o’u cwmpas i’w cefnogi mewn ffyrdd priodol.
Beth yw cam-drin domestig a thrais rhywiol?Ddweud wrth fenywod a phlant am Gymorth i Fenywod Cyfannol. Ni allwn helpu oni bai bod pobl yn gwybod ein bod ni yma.
Gofyn am ein taflenni i’ch hun, eich ffrindiau neu eich gweithle a’u harddangos yn amlwg.
Gofyn i ni ddarparu ein hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cam-drin Domestig neu roi anerchiad yn eich gweithle – efallai y cewch eich synnu gan y pethau y byddwch yn eu dysgu.
Cysylltu â ni drwy Facebook a Twitter
Trefnu digwyddiadau codi arian neu weithgareddau noddedig
Dewch o hyd i wybodaeth gyswllt eich tîm lleol
Cefnogwch ni i helpu rhagor o fenywod a phlant i ddianc rhag camdriniaeth
Darllenwch a lawrlwythwch ein taflenni i’w harddangos yn eich gweithle neu gymuned