Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Cymorth i Ddynion

Cymorth arbenigol i ddynion sydd wedi profi cam-drin, niwed neu drais domestig neu rywiol.

A one-to-one counselling or support session, highlighting compassionate listening and emotional support in a welcoming environment.
A one-to-one counselling or support session, highlighting compassionate listening and emotional support in a welcoming environment.
A one-to-one domestic abuse support session, highlighting compassionate listening, emotional support and access to specialist help.

Yn Cymorth i Ferched Cyfannol, rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob unigolyn sydd wedi profi cam-drin domestig neu rywiol, niwed neu drais, gan gynnwys dynion. Er bod ein henw yn adlewyrchu ein hanes a’n hymrwymiad hirsefydlog i fenywod a phlant, mae ein gwaith yn seiliedig ar gefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin, waeth beth fo’u rhyw. Rydym yma i helpu, gan ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle mae dynion yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando arnynt ac yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Cymorth ar gael i chi

Ar hyn o bryd, rydym yn darparu cymorth pwrpasol i ddynion sydd wedi profi cam-drin domestig ym Mlaenau Gwent ac yng Nghaerffili; yno, rydym yn cael ein comisiynu gan dimau Grant Cymorth Tai (HSG) y cyngor i ddarparu’r gwasanaethau hyn ochr yn ochr â gwasanaethau i fenywod a phlant.

Er bod y gwasanaethau cyfatebol yn Nhorfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd yn cael eu comisiynu ar gyfer menywod yn unig ar hyn o bryd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sy’n cysylltu â ni am gymorth yn cael cyngor diogelwch cychwynnol ac yn cael eu cyfeirio at wasanaethau a all eu helpu. Os nad ydych yn siŵr ble i droi, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cyfeirio at y cymorth cywir i chi.

Rydym yn cynnig model lloches hyblyg sy’n cynnwys darpariaeth i ddynion – gyda phlant neu hebddynt – sydd angen lle diogel i aros. Drwy ddefnyddio eiddo penodol sydd wedi’u gwasgaru, gallwn ddarparu llety diogel ac annibynnol ynghyd â chymorth wedi’i deilwra. Mae’r dull hwn yn cydnabod bod gan unigolion anghenion ac amgylchiadau gwahanol, gan sicrhau bod y cymorth yn teimlo’n ddiogel, yn barchus ac yn briodol i bob unigolyn.

Rydym yn darparu cymorth arbenigol i bobl o bob rhyw sydd wedi profi trais rhywiol, gan gydnabod yr effaith ddofn y gall hyn ei chael ar les ac ymdeimlad o ddiogelwch unigolion. Mae ein gwasanaethau ar gael ledled Gwent ac wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion unigol.

Mae’r cymorth yn cael ei deilwra i bob unigolyn a gall gynnwys sesiynau un-i-un a rhaglenni grŵp, gan helpu unigolion i ddeall eu profiadau, adennill hyder a symud tuag at wella mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Rydym yn darparu cymorth arbenigol i bobl o bob rhyw sydd wedi profi trais rhywiol, gan gynnwys camfanteisio rhywiol, gan gydnabod yr effaith ddofn y gall hyn ei chael ar les ac ymdeimlad unigolion o ddiogelwch. Mae ein gwasanaethau ar gael ledled Gwent ac wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion unigol.

Mae’r cymorth yn cael ei deilwra i bob unigolyn a gall gynnwys sesiynau un-i-un a rhaglenni grŵp, gan helpu unigolion i ddeall eu profiadau, adennill hyder a symud tuag at wella mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun

Gall profi cam-drin, niwed neu drais wneud i chi deimlo’n ynysig ac yn ddryslyd. Gall ddigwydd mewn unrhyw berthynas ac effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo’u rhyw, eu hoedran neu eu cefndir. Os ydych chi’n ddyn sy’n wynebu cam-drin, niwed neu drais, mae’n bwysig gwybod:

Gwrandewir arnoch heb farnu

Rydym yn deall pa mor anodd gall fod i siarad am eich profiadau. Bydd ein tîm yn gwrando gyda empathi a pharch, heb feio, rhagdybiaethau na beirniadaeth.

Mae eich profiadau yn ddilys

Gall cam-drin gymryd sawl ffurf, ac mae eich teimladau a’ch profiadau yn bwysig. Cewch eich credu a’ch cefnogi, beth bynnag yw eich sefyllfa.

Mae cymorth ar gael i chi

Does dim rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun. Rydym yma i ddarparu arweiniad, cymorth ymarferol a chefnogaeth barhaus ar gyflymder sy’n iawn i chi.

Sut gallwn ni eich cefnogi

Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol ac wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan gam-drin, niwed neu drais.

  • Cyngor a Chymorth Cyfrinachol

    Gallwch siarad â gweithiwr cymorth mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol. Byddwn yn gwrando ac yn eich helpu i archwilio eich opsiynau.

  • Cynllunio Diogelwch

    Gallwn weithio gyda chi i ddatblygu cynllun ymarferol i helpu i leihau risg a’ch cadw mor ddiogel â phosibl.

  • Cymorth Emosiynol

    Rydym yn darparu cymorth parhaus sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’ch helpu i brosesu eich profiadau, adennill hyder a symud ymlaen.

  • Cyfeirio ac Atgyfeirio

    Os oes angen cymorth ychwanegol neu arbenigol arnoch, gallwn eich cysylltu â sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi dynion.

  • Canllawiau Ymarferol

    Gallwn ddarparu cymorth yn ymwneud â:

    • Dewisiadau tai
    • Hawliau a phrosesau cyfreithiol
    • Cael mynediad at wasanaethau arbenigol ledled Gwent
    • Deall yr opsiynau ar gyfer rhoi gwybod (os dewiswch wneud hynny)
  • Deall Cam-drin a Trais Rhywiol

    Nid yw cam-drin, niwed na thrais bob amser yn rhai corfforol. Gallant gynnwys:

    • Cam-drin emosiynol neu seicolegol
    • Ymddygiad rheoli neu gymellol
    • Cam-drin ariannol
    • Cam-drin rhywiol neu gyswllt rhywiol digroeso
    • Bygythiadau, bwlio neu aflonyddu

    Os nad yw pethau’n teimlo’n iawn, neu os ydych chi’n teimlo’n anniogel, mae’n bwysig ceisio cymorth.

Estyn Llaw

Gall cymryd y cam cyntaf fod yn anodd, ond mae cymorth ar gael pan fyddwch chi’n barod. Gallwch gysylltu â ni i:

Siaradwch am eich sefyllfa

Rhannwch gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Rydym yma i wrando a deall yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo.

Gofynnwch gwestiynau yn hyderus

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gallwch ofyn cwestiynau yn ddiogel ac yn breifat; nid oes unrhyw bwysau na disgwyliad.

Archwiliwch eich opsiynau ar eich cyflymder eich hun

Byddwn yn eich cefnogi i ddeall eich dewisiadau a’r camau nesaf, gan roi’r amser a’r gofod i chi benderfynu beth sy’n iawn i chi.

Two sets of hands touching palms.

Cysylltwch â’n swyddfeydd

Dewch o hyd i wybodaeth gyswllt eich tîm lleol 

A drawing of the words 'horizon', which appear in yellow caps. Above it is a drawing of a yellow sunrise. Underneath is are the words, 'Empowering survivors of sexual violence' and 'Grymuso Goroeswyr Trais Rhywoil'.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â’n Gwasanaethau Cymorth Horizon am help, cymorth a chyngor

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan