Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n ystyriol o drawma ledled Gwent i helpu unigolion a theuluoedd i ddod o hyd i ddiogelwch a byw eu bywydau heb ofn.
Mae ein holl wasanaethau yn cael eu darparu gan staff profiadol a chymwys sydd yn arbenigwyr yng nghymorth cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae ein ffocws ar rymuso pobl i adnabod eu cryfderau, adfer o’u profiadau ac ail-adeiladu eu bywydau.
Mae ein cefnogaeth yn gyfrinachol ac anfeirniadol. Byddwn yn eich helpu i gael mynediad at y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch, ac yn rhoi’r lle i chi wneud y dewisiadau cywir i chi.
Mae enghreifftiau o’r cymorth a ddarparwn ar draws amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys:
Cymorth un i un
Cynllunio ar gyfer diogelwch
Llety diogel
Cymorth dros y ffôn
Cymorth ynglŷn â’r Llys Teulu
Help i wneud eich cartref eich hun yn fwy diogel
Cymorth gyda’r broses heddlu
Cymorth grŵp
Help gyda materion arian a chyllid
Cymorth i gael mynediad i gyngor cyfreithiol
Cymorth ac eiriolaeth gydag asiantaethau statudol, megis gwasanaethau cymdeithasol
Cwnsela a therapïau eraill
Cymorth ac eiriolaeth gyda thai
Cymorth i gael mynediad at fudd-daliadau lles, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
Atgyfeiriadau a chyfeirio at wasanaethau eraill y gallai fod eu hangen arnoch
Grwpiau cymorth teuluoedd a chymheiriaid sy’n dod â phobl gyda phrofiadau a rennir ynghyd i gefnogi ei gilydd
Gweld y gwasanaethProsiect arbenigol ar gyfer oedolion a phobl ifanc sy’n profi camfanteisio rhywiol neu ariannol ar hyn o bryd, neu sydd mewn perygl ohono.
Gweld y gwasanaethRhaglen 12 wythnos sy'n helpu goroeswyr, sydd mewn sefyllfa i gymryd rhan mewn grŵp, i ddod i brosesu eu profiadau a datblygu strategaethau ffordd o fyw ac ymdopi cadarnhaol.
Gweld y gwasanaethRhaglen 12-wythnos sy'n helpu cyfranogwyr i ddeall effaith cael profiad o gam-drin domestig.
Gweld y gwasanaethGall ein staff cymorth gynnig cyngor drwy 03300 564456 yn ystod oriau swyddfa (Llun-Gwen 09:30am-04:30pm). Y tu allan i oriau swyddfa, gellir defnyddio ein rhif ffôn i gyrchu gwybodaeth a chyngor mewn argyfwng.
Gofynnwch am alwad yn ôl o’n tîm gwasanaethau cymorth yn eich ardal