Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Rhannwch eich hanes

Mae gan bawb stori i’w hadrodd. Gan rannu eich hanes chi, gallwch rymuso goroeswyr o bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol i siarad â rhywun a chael y cymorth sydd ei hangen arnynt drwy hefyd rhoi llais pwerus i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ac ymdrechion codi arian Cymorth i Fenywod Cyfannol. 

A child's hand holding a crying face made out of construction paper.
A child's hand holding a crying face made out of construction paper.

Pŵer Adrodd Hanesion

Fel gwirfoddolwr hanesion, gallwch ddangos i oroeswyr eraill cam-drin domestig a thrais rhywiol nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain. Gall eich hanes hefyd ysbrydoli pobl i godi arian i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol, a’n helpu i fwyhau’r lleisiau goroeswyr i godi ymwybyddiaeth. 

P’un a gawsoch gefnogaeth yn ddiweddar neu flynyddoedd yn ôl, byddem wrth ein bodd yn clywed amdano, ac yn rhannu eich profiad i annog eraill i estyn allan am help. 

Rhannwch eich stori

Lle gallech rannu eich hanes

Wrth rannu eich hanes, mae’n bwysig i ni eich bod yn cael dewis ble a sut rydyn ni’n defnyddio eich hanes. 

Dibenion hyfforddi a chyfathrebu mewnol

Mae eich hanesion yn darparu dysgu i helpu ein staff i ddeall bod pob person rydym yn ei gefnogi yn wahanol a’u haddysgu ar unrhyw ddysgu o’ch hanes. 

Adroddiadau allanol i arianwyr ac asiantaethau eraill

Mae eich hanesion yn brawf byw bod angen ein gwasanaethau ar bobl, pam eu bod yn bwysig, a sut y gallant rymuso goroeswyr. 

Ymgyrchoedd codi arian

Gall eich profiadau bywyd go iawn roi’r cymhelliant sydd ei angen ar bobl i godi arian i helpu goroeswyr fel chi i ail-adeiladu eu bywydau. 

Cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau cyfryngau eraill gan gynnwys ein newyddlen fisol

Drwy rannu eich hanes yn y cyfryngau neu ar-lein, gallwch helpu i ddangos i’r byd pam mae’r gwaith mae Cyfannol yn ei wneud yn hollbwysig. 

Rydym yn eich cefnogi yr holl ffordd 

We’ll work with you to make sure that your story is told in a way that suits you. We always ask for your consent before sharing your story. We will help you if you do have any questions, please contact fundraising@cyfannol.org.uk

Survivor stories

Dechreuodd fy mywyd y diwrnod y gadewais ef. Es i goleg celfyddydau perfformio, dysgais i yrru, gwneud gradd, ac yn araf fe wnes i greu gyrfa mewn gweithio gyda phlant...

Rwy'n teimlo bod dwywaith yn fy mywyd lle rydw i wedi cael fy achub. Y tro cyntaf oedd pan wnes i ddianc o'r camdriniwr o'r diwedd... Yr ail dro oedd pan aeth Horizon â mi ar eu llwyth achosion...

Gweld pob un
Cau'r Gwefan