Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Doeddwn i’n gwybod dim am drais domestig nes i mi gwrdd â’m ŵr yn 15 oed. Cefais fy nghloi yn ei fflat a’m rhwystro rhag mynd i’r ysgol. Daethwn yn feichiog yn 16 oed. Yn raddol aeth pethau’n waeth o’r fan honno.
Yn ystod y saith mlynedd ddilynol, cefais fy nyrnu, fy nghicio, a’m cleisio yn barhaus; hyd yn oed pan oeddwn i’n feichiog. Roedd bygythiadau i fy lladd i, fy merch, neu aelodau o fy nheulu yn ddigwyddiad dyddiol. Roeddwn i’n 23 oed ac wedi colli fy nheulu, wedi colli fy chwerthin, wedi colli’r disgleirdeb yn fy llygaid. Roeddwn i’n teimlo fel cysgod bach anweledig. Roedd pobl yn gwybod, ond allwn i ddim dweud wrth neb, gan fy mod mor ofnus y byddai fy mhlentyn yn cael ei gymryd i ffwrdd. Roeddwn i’n meddwl pe bawn i’n cadw fy ngheg ynghau, yna o leiaf roedd gen i fy merch.
Y digwyddiad a’i sbardunodd i mi oedd pan ddechreuodd gam-drin fy merch yn feddyliol. Roedd hi’n ofnus iawn ohono a gofynnodd dro ar ôl tro am gael ei chymryd i gartref hapus. Un diwrnod roedd yn chwistrellu un o’i ffrindiau tra roeddwn i dan glo mewn cwpwrdd allanol. Llwyddais i wthio fy ffordd allan a rhedeg. Y cyfan oedd gen i oedd fy llyfr budd-dal plant. Gyda chymorth fy chwaer iau, casglwyd fy merch o’r ysgol. Aethom yn syth i’n swyddfa Cymorth i Fenywod leol a chefais fy atgyfeirio i loches yn Sir Fynwy, sy’n cael ei rhedeg gan Cymorth i Fenywod Cyfannol.
Dechreuodd fy mywyd y diwrnod y gadewais ef. Es i goleg celfyddydau perfformio, dysgais i yrru, gwneud gradd, ac yn araf fe wnes i greu gyrfa mewn gweithio gyda phlant. Ers hynny, rwyf wedi llwyddo i hyfforddi a phellhau fy hun oddi wrth y ferch a ddaeth i’r lloches yn ei chyflwr cwbl doredig. Rwyf bellach yn gweithio gyda phlant sydd wedi profi trawma, sy’n aml yn emosiynol ddideimlad, a fy mrwdfrydedd i yw helpu i ddod â nhw’n fyw eto.