Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae ein gwasanaethau Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Thorfaen yn darparu ymyrraeth argyfwng yn bersonol, dros y ffôn ac ar sail allgymorth yn y gymuned.
Mae’r timau hyn yn gallu darparu cyngor a chymorth ynglŷn â diogelwch personol, diogelwch, opsiynau cyfreithiol a thai, ni waeth a yw menyw yn dal mewn perthynas gamdriniol, yn bwriadu gadael neu wedi gadael y berthynas yn ddiweddar, neu’n profi ôl-effeithiau cam-drin domestig.
Rydym yn cynnig cyfleusterau galw heibio yn ein canolfannau ym Mhont-y-pŵl, Glyn Ebwy, ac Y Fenni, ac ar sail allgymorth yng nghanolfannau ledled Sir Fynwy. Lle bo’n briodol, rydym yn hwyluso mynediad i loches ac yn gallu helpu unigolion i gael mynediad i asiantaethau eraill i ddiwallu eu hanghenion cymorth unigol.
Rhywun i siarad â hi yn gyfrinachol
Mynediad i lety diogel
Cefnogaeth i aros yn eich cartref eich hun
Cefnogaeth arbenigol i’ch plant
Gwybodaeth ar sut i gadw’n ddiogel
Help i gymryd rheolaeth ar eich bywyd yn ôl
Ffoniwch ni ar 03300 564456 rhwng 09:30am a 04:30pm os hoffech wneud apwyntiad neu holi am fynychu un o’n sesiynau galw heibio:
GLYN EBWY:
Llun-Gwener 9.30am-4.30pm
@ Sefydliad Glyn Ebwy
Stryd yr Eglwys, Glyn Ebwy
NP23 6BE
Y FENNI:
Llun-Gwener 9.30am-4.30pm
@ Canolfan Aml-Asiantaeth Sir Fynwy
26b Stryd y Mynach NP7 5NP
CIL-Y-COED:
Dydd Iau 09.30am-12.30pm
@ TogetherWORKS,
Woodstock Way NP26 5DB
CAS-GWENT:
Prynhawn dydd Iau – trwy apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw yn unig
@ Caban Cymunedol
Ysbyty Cas-gwent NP16 5YX
MYNWY:
Bob yn ail ddydd Mercher: 9.30am-12.30pm
@ Hwb Cymunedol, Whitecross Street NP25 3BY
BRYNBUGA:
Bob yn ail ddydd Mercher: 9.30am-12.30pm – trwy apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw yn unig
@ Hwb Cymunedol, 35 Maryport Street NP15 1AE
PONT-Y-PŴL:
Llun – Gwener 9.30am – 4.30pm
@ Cymorth i Fenywod Cyfannol
3 Townbridge Buildings,
Pont-y-pŵl NP4 6JE
Gall ein staff cymorth gynnig cyngor drwy 03300 564456 yn ystod oriau swyddfa (Llun-Gwen 09:30am-04:30pm). Y tu allan i oriau swyddfa, gellir defnyddio ein rhif ffôn i gyrchu gwybodaeth a chyngor mewn argyfwng.
Gofynnwch am alwad yn ôl o’n tîm gwasanaethau cymorth yn eich ardal