Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Rydym yn cynnig gwasanaeth allgymorth cefnogaeth symudol i fenywod yn eu cartrefi eu hun yn Nhorfaen, ac i ddynion a menywod yn eu cartrefi eu hun ym Mlaenau Gwent. Mae’r gwasanaeth hwn yn cefnogi unigolion i deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi, mwynhau gwell lles, teimlo’n fwy hyderus, a gweithio tuag at annibyniaeth.
Mae’r ddau wasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau drwy’r pyrth cymorth tai yn eu hardaloedd priodol.
Cymorth emosiynol un i un
Cynllunio ar gyfer cymorth a chynllunio ar gyfer diogelwch wedi’i deilwra i’ch anghenion i’ch helpu i gynllunio’ch camau nesaf
Cymorth gyda materion tai
Gwneud eich cartref eich hun yn fwy diogel
Cymorth gyda materion arian a chyllid
Help i gael mynediad i gyngor cyfreithiol
Cymorth ynglŷn â’r llys teulu
Cymorth ac eiriolaeth gydag asiantaethau statudol, megis gwasanaethau cymdeithasol
Mynediad i waith grŵp a gweithgareddau, gan gynnwys y cwrs Own My Life
Cymorth i gael mynediad at fudd-daliadau lles, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
Atgyfeiriadau a chyfeirio at wasanaethau eraill y gallai fod eu hangen arnoch
Defnyddiwch y ffurflen hon i gyfeirio at y Gwasanaethau Cymorth Cymorth i Fenywod Cyfannol.
Os ydych chi/yr unigolyn sy’n cael ei atgyfeirio yn ceisio lloches neu angen cymorth mewn argyfwng ar unwaith, ffoniwch Cymorth i Fenywod Cyfannol yn uniongyrchol ar 03300 564456.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Bydd pob atgyfeiriad yn derbyn ymateb o fewn 72 awr.