Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Boost

Rhannu hwn
Two sets of hands touching palms.

Mae Gwent Boost yn brosiect mewn partneriaeth gyda’r nod o rymuso unigolion sydd â phrofiadau byw trwy ddarparu cyfleoedd yn eu cymunedau. 

Bydd y prosiect yn cyflawni: 

  • Rhaglen Ymgynghorwyr Cymheiriaid a Dargedir  
  • Prosiect Menter Gymdeithasol 
  • Rhwydwaith Hyrwyddwyr ar gyfer Landlordiaid a Thenantiaid  
  • Cymorth seicoleg glinigol Gwent gyfan 
  • Cydgynhyrchu  

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn cydgyflwyno’r Rhaglen Ymgynghorwyr Cymheiriaid a Dargedir gydag Ymddiriedolaeth St Giles. Rydym yn cefnogi drwy recriwtio menywod â phrofiadau byw i fod yn gynghorwyr cymheiriaid ac yn helpu gyda’r gwaith o chwalu’r rhwystrau sy’n atal menywod â phrofiad byw i fynychu gwaith. Bydd y cynghorwyr cymheiriaid hyn yn mynd i rolau cymorth lle gellir defnyddio eu profiad byw mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant, lleoliad gwaith, datblygiad proffesiynol, a chymorth o amgylch fframwaith cymhwyster Cyngor ac Arweiniad Lefel 3. Mae hyn yn rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau i’r cynghorwyr cymheiriaid i symud i gyflogaeth a gwneud cynnydd yn eu bywydau newydd.  

Mae gan y rhaglen lawer o elfennau nodedig sy’n ei gosod ar wahân i fentrau cymheiriaid eraill, gan gynnwys: 

  • Mae hyfforddiant cychwynnol yn ymdrin ag agweddau hanfodol ar waith cyngor ac arweiniad, gan gynnwys modiwlau ar ddeddfwriaeth, diogelu, diogelu data, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gyfranogwyr i ddarparu gwasanaethau effeithiol yn y gymuned. Ar gyfer y cam cyntaf, byddwch yn cael eich cofrestru ar y cwrs Dysgu i Gynghori. 
  • Mae lleoliadau gwirfoddol, sydd fel arfer yn para 6 i 8 mis, yn cynnig profiad ymarferol mewn rolau cyngor ac arweiniad rheng flaen dilys ochr yn ochr ag aelod pwrpasol o’r tîm BOOST. Mae’r lleoliadau hyn wedi’u cynllunio i feithrin hyder, arddangos sgiliau, a gwella rhagolygon cyflogadwyedd. 
  • Mae goruchwylio a chymorth yn gosod y sylfaen ar gyfer datblygu proffesiynoldeb, gwella cyflogadwyedd, a meithrin dilyniant tuag at gyflogaeth barhaus a dyheadau gyrfa hirdymor. Mae cymorth hefyd ar gael i helpu gyda sgiliau ysgrifennu CV a chyfweliad. 

Trwy asesu ac adeiladu portffolio, mae unigolion yn ymdrechu tuag at gyflawni’r dystysgrif City & Guilds Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad, a gydnabyddir fel cymhwyster safonol y diwydiant a geisir gan gyflogwyr. Mae’r garreg filltir hon yn aml yn nodi cyflawniad addysgol sylweddol i lawer, gyda chymorth ac arweiniad yn cael eu darparu gan aseswyr profiadol sy’n fedrus wrth deilwra eu dull i ddarparu ar gyfer arddulliau dysgu amrywiol. 

Darganfyddwch o fewn prosiect BOOST Gwent amrywiaeth o gyrsiau ychwanegol, gan gynnwys y cyfle i ennill tystysgrif mewn ymwybyddiaeth iechyd meddwl a hyfforddiant arall, ynghyd â chymorth i helpu gyda sgiliau ysgrifennu CV a chyfweliad. 

Mae’r prosiect yn rhychwantu Gwent gyfan, gan gynnwys Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, a Chaerffili, gan sicrhau hygyrchedd o fewn eich ardal leol eich hun. 

Am y tro cyntaf, teimlwn fod gan fy mhrofiad werth a bod gen i rywbeth cadarnhaol i’w gynnig 

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r prosiect hwn, lawrlwythwch ein taflen. 

I gyfeirio at Brosiect BOOST, gwneud ymholiad, neu gael gwybod rhagor, ffoniwch dîm BOOST ar 07854558223 neu BOOST@cyfannol.org.uk 

Rhannu hwn

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan