Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Ariennir prosiect Ar Trac gan Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 i 2023 a dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru, sy’n dod â phum asiantaeth cam-drin domestig arbenigol ynghyd i ddarparu dull a arweinir gan gonsortiwm o gefnogi plant a phobl ifanc.
Mae Ar Trac yn cefnogi plant a phobl ifanc 5-16 oed sydd wedi cael profiad neu fod yn dyst o gam-drin domestig ac sy’n arddangos anawsterau gyda’u perthnasoedd teuluol a chyfoedion.
Gall anawsterau fod yn eang ac yn dreiddiol; drwy fynd i’r afael â nhw ac adeiladu ar gryfderau o fewn plentyndod, nod Ar Trac yw lleihau effaith y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig a gwella lles gydol oes.
Mae’r prosiect yn dod ag amrywiaeth o ymyriadau gyda’i gilydd, wedi’u creu ar y cyd gan asiantaethau lleol a phlant a phobl ifanc:
Gellir teilwra cyfres o wasanaethau sy’n addas o ran oedran Ar Trac yn seiliedig ar anghenion a chryfderau unigol y plentyn a’i deulu.
Trwy gydol y prosiect, mae plant a phobl ifanc yn cael eu grymuso i:
Nod Ar Trac yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu mynd ymlaen i:
Cyflawnir Ar Trac ar draws 10 ardal gan 5 partner prosiect rhanbarthol:
Darperir cymorth uniongyrchol gan y sefydliadau cymorth arbenigol hyn, y mae gan bob un ohonynt brofiad helaeth a dealltwriaeth fanwl o anghenion plant a phobl ifanc y mae trais domestig yn effeithio arnynt.
I atgyfeirio i raglen Ar Trac, gwnewch ymholiad, neu i ddod o hyd i ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 03300 564456 neu e-bostiwch ArTrac@cyfannol.org.uk
Wasanaethau cymorth trais rhywiol arbenigol ledled Gwent
Prosiect Helpu i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd Gwent: Mae BOOST (Datblygu Ar Ein Cryfderau Gyda'n Gilydd/Building On Our Strengths Together) yn brosiect pum mlynedd wedi’i gefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Wedi’i ariannu gan Raglen Pobl a Lleoedd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Allgymorth Pendant yn brosiect Cymorth i Fenywod Cyfannol, sy'n gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent.