Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Nenblymio a Llinell Sip
Profwch eich dewrder a gwnewch eich ymdrechion codi arian yn unigryw trwy nenblymio neu fynd ar linell sip!
Yn ogystal â bod yn rhuthr o adrenalin, mae cymryd rhan mewn nenblymiad neu linell sip elusennol yn ffordd unigryw a chyffrous i godi arian dros Cyfannol. Mae nenblymio neu fynd ar linell sip yn aml ar restrau bwced llawer o bobl, felly beth am gyfuno’r freuddwyd honno gydag ewyllys da trwy ei wneud yn enw Cyfannol?
Skydive Swansea yw’r unig leoliad nenblymio yn Ne Cymru ac mae’n cynnig dau fath gwahanol o nenblymio i chi ddewis o’u plith gyda golygfeydd hyfryd o:
Byddwch yn profi’r wefr o gwympo’n rhydd ac yn mwynhau reid canopi perfformiad uchel ynghlwm wrth hyfforddwr cwbl gymwys. Ar ôl cyrraedd, ar ôl rhywfaint o waith papur, byddwch yn cael eich tywys trwy’r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch i nenblymio. Mae hyn yn cynnwys sgwrs am yr offer a ddefnyddir, cyfeiriad yr awyren ac yn rhoi sylw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl mewn cwymp rhydd ac yn olaf yr ystum y mae angen i chi ei fabwysiadu ar gyfer glanio. Mae’r hyfforddiant yn para tua 40 munud a bydd yr hyfforddwyr yn falch i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Ar gyfer eich naid byddant yn darparu siwt neidio, menig, gogls a phenwisg i chi. Nesaf byddwch yn cael eich ffitio yn yr harnais deuol gan eu hyfforddwyr.
Byddwch yn neidio o hyd at 12,000 troedfedd. Mae’n cymryd tua 18 munud i’r awyren gyrraedd uchder felly bydd gennych amser i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd godidog.
Unwaith y byddwch ar uchder, rydych chi’n barod i fynd! Byddwch yn cwympo’n rhydd ar 120mya am tua 45 eiliad. Bydd eich hyfforddwr yn defnyddio’r parasiwt erbyn 5,000 troedfedd. Mae gan y parasiwt reolaethau deuol felly gallwch chi gynorthwyo’r hyfforddwr trwy droelli’r parasiwt yn yr awyr.
Bydd eich hyfforddwr yn rheoli’r parasiwt ar gyfer y glaniad. Ar y cyfan, mae’n brofiad sy’n sicr o fynd â’ch gwynt!
I gofio’ch nenblymiad byddwch yn derbyn tystysgrif ar ddiwedd y naid.
Pa mor anhygoel mae hynny’n swnio!
Profwch fath gwahanol o dandem lle byddwch yn neidio o uchder is o 7,000 troedfedd yn lle ein 12,000 troedfedd arferol. Mae’n ddewis poblogaidd ar gyllideb i bobl sy’n dymuno rhoi cynnig arni cyn ymgymryd â’r tandem uwch.
Mae’r hyfforddiant i’r un safon uchel â’u nenblymio tandem arferol. Ar ôl cyrraedd y ganolfan barasiwt, ar ôl rhywfaint o waith papur, byddwch yn cael eich tywys trwy’r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch i nenblymio. Bydd hyn yn cynnwys yr offer a ddefnyddir, cyfeiriad yr awyren ac yn trafod yr hyn y gallwch ei ddisgwyl mewn cwymp rhydd ac yn olaf yr ystum y mae angen i chi ei fabwysiadu ar gyfer glanio. Mae’r cyfarwyddyd a’r hyfforddiant hwn yn para 40 munud yn gyffredinol a bydd yr hyfforddwyr yn falch i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Ar gyfer eich nenblymiad byddant yn darparu siwt neidio, menig, gogls a phenwisg i chi. Nesaf byddwch yn cael eich ffitio yn yr harnais gan eich hyfforddwr.
Unwaith y byddwch yn yr awyren byddwch yn cael eich clymu at eich hyfforddwr. Byddwch yn dal i brofi’r rhuthr enfawr hwnnw o adrenalin wrth i chi weld y drws yn agor 7,000 troedfedd a symud tuag at ymyl yr awyren. Byddwch yn hongian tu allan i’r awyren am foment cyn neidio.
Bydd eich hyfforddwr yn defnyddio’r parasiwt o fewn eiliadau ac erbyn tua 5,000 troedfedd byddwch o dan Barasiwt Tandem Ram Air yn troelli drwy’r awyr. Mae gan y parasiwt reolaethau deuol a gallwch chi helpu’r hyfforddwr i lywio’r parasiwt i wneud y gorau o’r golygfeydd godidog dros Benrhyn Gŵyr. Bydd eich hyfforddwr yn cymryd rheolaeth lwyr ar y glaniad ar ôl tua 5 munud, yn sicr o fynd â’ch gwynt!
I gofio’ch profiad nenblymio byddwch yn derbyn tystysgrif cyflawniad.
Byddwn yn gofyn i chi godi o leiaf £395.00, a fydd yn cynnwys y gost o £230 i nenblymio. Mae angen blaendal o £50 wrth archebu. Gan adael £180 i’w dalu ar y diwrnod byddwch yn cyrraedd, yna bydd £165 yn mynd i Cyfannol, neu fwy yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei gasglu.
Os ydych yn bwriadu casglu rhoddion i dalu am y nenblymiad, rydyn ni’n awgrymu defnyddio ffurflen noddi i gasglu rhoddion fel y gallwch ddyrannu rhai rhoddion i dalu’r gost. Fodd bynnag, gallwch hefyd dalu am eich nenblymiad eich hun i’w groesi bant o’ch rhestr bwced ac yna bydd eich holl roddion yn mynd at Cyfannol.
Profwch ryddid hedfan wrth wneud datblygiadau arloesol yn bosib!
Ydych chi erioed wedi meddwl sut deimlad fyddai hedfan? Profwch y peth agosaf ato gyda phrofiad gwirioneddol unigryw a chyffrous!
Rhowch gynnig ar linell sip cyflyma’r byd wrth godi arian i Cyfannol.
Dewiswch o blith dau brofiad a lleoliad Zip World yng Nghymru Velocity 2 yng Ngogledd Cymru neu Phoenix Tower yn Ne Cymru.
Paratowch ar gyfer profiad gwirioneddol unigryw a chyffrous ar linell sip cyflyma’r byd! Hedfanwch dros Chwarel y Penrhyn yng Ngogledd Cymru, lle gallech chi deithio ar gyflymder o dros 100mya wrth i chi fwynhau’r golygfeydd syfrdanol a theimlo’r rhyddid o hedfan.
Heriwch eich hun a strapiwch i mewn ar gyfer taith eich bywyd ar y Llinell Sip Phoenix yn Zip World Tower yn Ne Cymru. Paratowch ar gyfer hediad bythgofiadwy ar linell sip eistedd cyflyma’r byd! Byddwch yn hedfan ar draws safle glofaol hanesyddol Glofa’r Tŵr ac yn gweld golygfeydd godidog o’r mynyddoedd yng Nghymoedd De Cymru.
I gefnogi Cyfannol gyda’ch gilydd, mae ganddynt hefyd gynigion ar gyfer grwpiau codi arian.
Pecyn codi arian digidol a’ch crys-t Cyfannol eich hun i wisgo ar y diwrnod.
Digonedd o ddeunydd a chymorth codi arian.
Ymunwch fel tîm neu unigolyn, a gwnewch rywbeth anhygoel dros oroeswyr cam-drin.