Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Gallwch gymryd rhan mewn unrhyw her elusen o’ch dewis a chodi arian ar gyfer ein goroeswyr. P’un a ydych yn gosod nod ffitrwydd i chi’ch hun, yn cyflawni uchelgais gydol oes, neu’n nodi carreg filltir – gwthiwch eich hun i’r eithaf a helpwch ni i fod yno ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Efallai bod yna ddigwyddiad lleol rydych chi wedi bwriadu cofrestru ar ei gyfer, profiad unwaith mewn oes ar eich rhestr bwced, neu rydych chi am drefnu eich her eich hun. Dyma rai pethau a allai fod yn ddefnyddiol i chi eu hystyried wrth feddwl am eich cynlluniau.
Ydych chi’n mwynhau rhedeg neu’n dechrau rhedeg? Beth am ymgymryd â her newydd a rhedeg dros Cyfannol?
Does dim terfyn o ran codi arian, beth am ymgymryd â her a hedfan drwy’r cymylau?
Wyt ti’n gêm i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched? Dangoswch i’r rhai ar-lein eich bod yn cefnogi Cyfannol a’r gwaith rydym yn ei wneud trwy ffrydio.
Chwilio am rywbeth ychydig yn fwy hamddenol o ran codi arian? Nid yw hynny’n broblem oherwydd rydym wedi rhoi casgliad o syniadau codi arian at ei gilydd i chi gychwyn arni.