Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Codi arian yn yr ysgol

Mae llawer o fanteision i godi arian. Mae myfyrwyr yn ennill sgiliau arwain gwerthfawr a hyder. Mae digwyddiadau codi arian yn gofyn bod myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd, yn ogystal â’u rhieni a’u hathrawon er mwyn cyflawni eu nod cyffredinol, ac maent yn dysgu am waith tîm. Dysgir myfyrwyr hefyd am bwysigrwydd cymuned, creadigrwydd, gofalu am eraill, a gwella’r amgylchedd cyffredin.  

Mae codi arian hefyd yn galluogi rhieni i gymryd rhan a chwarae rôl fwy gweithredol ym mywydau eu plant. Yn olaf, mae cyllid ychwanegol yn caniatáu i Cyfannol gadw’r gefnogaeth i fynd i’r rhai sydd mewn angen. Mae pawb ar ei ennill! 

Elusen am y flwyddyn

Meddwl am godi arian drwy’r flwyddyn i elusen? Beth am ei wneud i elusen leol?   

Mae cefnogi Cymorth i Fenywod Cyfannol trwy gydol y flwyddyn academaidd yn ffordd wych o ennyn diddordeb eich myfyrwyr yn ein gwaith a chodi arian hanfodol trwy weithgareddau codi arian difyr.  

Gall Cyfannol helpu plant a phobl ifanc i ddeall am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol mewn ffordd sy’n addas i’w hoedran, a datblygu ymwybyddiaeth o beth yw perthnasoedd iach. Rydym eisoes wedi casglu rhai adnoddau y gallwch eu defnyddio. Ewch i’n tudalen hunan gymorth a hidlo yn ôl plant a phobl ifanc. 

P’un a ydych wedi cefnogi ni o’r blaen, neu’n newydd i Cymorth i Fenywod Cyfannol, byddem wrth ein bodd yn eich cael chi ar ein tîm.  

Cysylltwch â ni drwy e-bostio fundraising@cyfannol.org.uk 

First Give 

Mae First Give yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd ledled y DU, gan ysbrydoli a grymuso pobl ifanc i gymryd camau i wneud newid cadarnhaol mewn cymdeithas trwy raglen ryngweithiol ac arloesol.  

Sut mae’n gweithio:  

  • Mae myfyrwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau ac yn dewis y materion sy’n bwysig iddyn nhw.  

  • Mae myfyrwyr yn ymchwilio i elusennau sy’n gweithio yn eu cymunedau ac fel dosbarth, yn dewis un i’w chynrychioli.  

  • Gwahoddir elusennau i ddod i gwrdd â’r dosbarth, fel y gall myfyrwyr ddysgu rhagor am eu gwaith a sut i’w helpu.  

  • Mae myfyrwyr yn cynllunio ac yn cyflawni gweithgareddau gweithredu cymdeithasol (codi arian, codi ymwybyddiaeth, gwirfoddoli) i gefnogi eu helusennau.  

  • Mae myfyrwyr yn dysgu sgiliau siarad cyhoeddus 

Syniadau codi arian yn yr ysgol:

Diwrnod Gwisgo Pyjamas yn yr Ysgol

Bydd eich myfyrwyr wrth eu boddau gyda’r syniad codi arian ysgol cyflym a hawdd hwn! Dywedwch wrth y plant y gallant fynychu’r ysgol yn eu pyjamas am ddiwrnod yn gyfnewid am roddion. 

Cysgu yn yr Ysgol

Cysgwch yn yr ysgol i godi arian. Rhowch wybod i rieni pob myfyriwr beth sydd angen iddynt ddod â nhw, a threfnwch weithgareddau hwyl, gemau, neu ffilm i’r plant eu mwynhau. 

Digwyddiad Codi Arian Cyfrif Losin

Rhowch jar o losin yng nghyntedd eich ysgol. Gofynnwch i fyfyrwyr am bunt neu ddwy i ddyfalu nifer y losin sydd yn y jar. Bydd pwy bynnag oedd agosaf yn ennill y jar. 

Digwyddiad Codi Arian Rhediad Lliw (Colour Run)

Codwch arian drwy godi tâl cymryd rhan a gofynnwch i fyfyrwyr wisgo crysau-t gwyn. Ar reolfannau penodol, bydd gwirfoddolwyr yn taflu balŵns dŵr sy’n cynnwys paent atynt. 

Walk-a-Thon

Ffordd wych o godi arian yw trefnu walk-a-thon. Yn dibynnu ar ble mae eich ysgol a sut mae eich myfyrwyr yn cyrraedd yr ysgol, gallwch godi swm da o arian i ni!  

Diwrnod Siwmper Nadolig

Cynhaliwch Ddiwrnod Siwmper Nadolig ar 9 Rhagfyr, boed y siwmperi Nadolig gorau neu siwmper Nadolig hyll. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn talu punt, peidiwch ag anghofio lluniau.   

Cysylltwch â’n tîm codi arian heddiw

Rydym bob amser yn hapus i helpu os ydych yn cysylltu â ni yn fundraising@cyfannol.org.uk neu dros y ffôn ar 03300 564456 a gofyn am gael siarad â’n tîm codi arian. 

A-Y Syniadau Codi Arian

Efallai nad dyma’r hyn rydych yn chwilio amdano ond rydyn ni wedi creu rhestr enfawr o syniadau codi arian er mwyn i chi ddechrau eich digwyddiad codi arian ar unwaith. 

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan