Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Rydyn ni wedi helpu miloedd o ddioddefwyr sy’n byw gyda, yn ffoi neu’n adfer o’r effaith o drais a cham-drin yng Ngwent. Heddiw, ni fu erioed mwy o angen am ein gwasanaethau.
P’un a ydych yn rhedeg eich marathon cyntaf, yn pobi, yn mynychu digwyddiad arbennig neu’n codi arian yn yr ysgol – mae gennym ni bopeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo a byddwn yma i’ch cefnogi ar hyd y ffordd.
Rydym yn gyffrous i weld sut yr ydych yn dewis codi arian ar gyfer Cymorth i Fenywod Cyfannol! Cymerwch olwg ar ein themâu isod a chysylltwch â ni yn fundraise@cyfannol.org.uk i roi gwybod i ni beth rydych chi’n ei gynllunio ac i gael cymorth gyda chodi arian a syniadau.
Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth codi arian? Mae gennym dudalen sy’n llawn syniadau i’ch helpu i gychwyn arni ar eich taith codi arian i helpu Cyfannol.
Ydych chi’n credu y gallai eich ysgol ein helpu i godi arian? Rydym wedi creu casgliad o ddigwyddiadau, syniadau ac awgrymiadau i gael eich ysgol gyfan i gymryd rhan.
Ydych chi am ymgymryd â her? P’un a ydych am redeg marathon, cerdded 10K neu seiclo drwy gymoedd Cymru, ymgymerwch â her rymusol i’n cefnogi.
Ydych chi’n meddwl y gallai eich cydweithwyr ein helpu i godi arian? Rydyn ni wedi rhoi digwyddiadau, syniadau ac awgrymiadau at ei gilydd i ennyn diddordeb eich tîm cyfan.
Ydych chi am ddangos eich ymdrechion codi arian i bawb? Mae gennym ni bopeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau codi arian yn syth!
Felly rydych chi wedi cwblhau digwyddiad neu her codi arian ac yn meddwl tybed sut i’w gael atom ni? Mae gennym ni sawl ffordd o dalu’r arian rydych chi wedi’i godi i ni i mewn.
helpu Cyfannol ddarparu rhai cyflenwadau ar gyfer ein sesiynau therapi celf.
helpu Cyfannol ddarparu bwffes ar gyfer pob lloches yn ystod digwyddiadau crefyddol.
helpu Cyfannol drefnu trip undydd i’r plant a’r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi.