Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Prosiect arbenigol ar gyfer oedolion a phobl ifanc sy’n profi camfanteisio rhywiol neu ariannol ar hyn o bryd, neu sydd mewn perygl ohono.
Mae ein Gwasanaeth Cymorth Camfanteisio Horizon yn darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac eiriolaeth i oedolion a phobl ifanc yng Ngwent sydd yn cael profiad ar hyn o bryd, neu mewn perygl o gael profiad, o gamfanteisio ariannol neu rywiol.
Mae’r gwasanaeth ar agor i bob oedolyn a pherson ifanc beth bynnag yw’r amgylchedd lle maent yn cael eu camfanteisio, er enghraifft:
Mae gwybodaeth gyfrinachol, cymorth, cyngor ac eiriolaeth ar gael ar ystod o faterion emosiynol ac ymarferol y mae oedolion a phobl ifanc yn eu nodi fel anghenion, gan gynnwys:
Diogelwch
Iechyd rhywiol
Materion cyfreithiol
Cyllid/cyllidebu
Cyflogaeth/addysg
Materion iechyd corfforol
Tai/digartrefedd
Cael mynediad i wasanaethau
Iechyd meddwl
Camddefnyddio sylweddau
Anhwylderau bwyta
Hunan niwed
Trais rhywiol
Trais corfforol
Chwalfa perthynas
Perthnasoedd teuluol
Colled
Lles emosiynol
Datblygu hyder/ymlacio
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael drwy alw heibio i’n swyddfa, allgymorth a chymorth dros y ffôn i bob oedolyn a pherson ifanc sydd mewn perygl o gamfanteisio rhywiol/ariannol.
Gall hyn gynnwys:
pobl mewn perthnasoedd rheolaethol
pobl mewn sefyllfaoedd tai gwael/digartrefedd
pobl sy’n cael eu cosbi o dan ddiwygio lles
pobl sy’n byw mewn tlodi gyda chyfrifoldeb am blant
pobl heb unrhyw hawl i gyllid cyhoeddus
pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau cronig
plant yn gadael y system gofal
Defnyddiwch y ffurflen hon i gyfeirio at y Gwasanaethau Cymorth Cymorth i Fenywod Cyfannol.
Os ydych chi/yr unigolyn sy’n cael ei atgyfeirio yn ceisio lloches neu angen cymorth mewn argyfwng ar unwaith, ffoniwch Cymorth i Fenywod Cyfannol yn uniongyrchol ar 03300 564456.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Bydd pob atgyfeiriad yn derbyn ymateb o fewn 72 awr.
Cysylltwch â’n Gwasanaethau Cymorth Horizon am help, cymorth a chyngor