Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae ein gwasanaethau trais rhywiol Horizon yn cynnig cymorth ledled Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Chaerffili i unrhyw un sydd wedi cael profiad o drais, trais rhywiol neu gam-drin rhywiol plentyndod.
Oedolion sydd wedi Goroesi Cam-drin Plentyndod
I 80% o’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw, dechreuodd eu cam-drin yn ystod plentyndod. Rydym yn deall y rhwystrau y mae unigolion yn eu hwynebu wrth ddatgelu digwyddiadau trawmatig o’r fath.
Trais Rhywiol Partner Agos
Rydym wedi bod yn cefnogi dioddefwyr/goroeswyr trais rhywiol partner agos ers 40 mlynedd. Rydym yn cydnabod bod pob camdriniaeth yn ffynnu ar gyfrinachedd a bod bygythiadau a llwgrwobrwyon yn aml yn cael eu defnyddio i gynnal cydymffurfiaeth.
Cymorth i Deulu a Ffrindiau
Gall ôl-effeithiau trais rhywiol gael eu teimlo nid yn unig gan y goroeswr ond gan eu partner, aelodau o’r teulu a’u ffrindiau. Rydym yn cynnig cefnogaeth ac yn hyrwyddo dealltwriaeth o effaith trais a cham-drin rhywiol.
Camfanteisio Rhywiol ac Ariannol
Ein nod yw darparu opsiynau ynglŷn â sut mae ein gwasanaethau’n edrych drwy holi, gwrando ac ymateb i bryderon ac anghenion y bobl sydd mewn perygl o, neu’n profi, camfanteisio rhywiol neu ariannol
Prosiect Helpu i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd Gwent: Mae BOOST (Datblygu Ar Ein Cryfderau Gyda'n Gilydd/Building On Our Strengths Together) yn brosiect pum mlynedd wedi’i gefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Wedi’i ariannu gan Raglen Pobl a Lleoedd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Allgymorth Pendant yn brosiect Cymorth i Fenywod Cyfannol, sy'n gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent.
Ariennir prosiect Ar Trac gan Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 i 2023 a dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru, sy'n dod â phum asiantaeth cam-drin domestig arbenigol ynghyd i ddarparu dull a arweinir gan gonsortiwm o gefnogi plant a phobl ifanc.