Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Cymorth arbenigol i ddynion sydd wedi profi cam-drin, niwed neu drais domestig neu rywiol.
Yn Cymorth i Ferched Cyfannol, rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob unigolyn sydd wedi profi cam-drin domestig neu rywiol, niwed neu drais, gan gynnwys dynion. Er bod ein henw yn adlewyrchu ein hanes a’n hymrwymiad hirsefydlog i fenywod a phlant, mae ein gwaith yn seiliedig ar gefnogi pawb sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin, waeth beth fo’u rhyw. Rydym yma i helpu, gan ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle mae dynion yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando arnynt ac yn cael eu trin ag urddas a pharch.
Ar hyn o bryd, rydym yn darparu cymorth pwrpasol i ddynion sydd wedi profi cam-drin domestig ym Mlaenau Gwent ac yng Nghaerffili; yno, rydym yn cael ein comisiynu gan dimau Grant Cymorth Tai (HSG) y cyngor i ddarparu’r gwasanaethau hyn ochr yn ochr â gwasanaethau i fenywod a phlant.
Er bod y gwasanaethau cyfatebol yn Nhorfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd yn cael eu comisiynu ar gyfer menywod yn unig ar hyn o bryd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sy’n cysylltu â ni am gymorth yn cael cyngor diogelwch cychwynnol ac yn cael eu cyfeirio at wasanaethau a all eu helpu. Os nad ydych yn siŵr ble i droi, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cyfeirio at y cymorth cywir i chi.
Rydym yn cynnig model lloches hyblyg sy’n cynnwys darpariaeth i ddynion – gyda phlant neu hebddynt – sydd angen lle diogel i aros. Drwy ddefnyddio eiddo penodol sydd wedi’u gwasgaru, gallwn ddarparu llety diogel ac annibynnol ynghyd â chymorth wedi’i deilwra. Mae’r dull hwn yn cydnabod bod gan unigolion anghenion ac amgylchiadau gwahanol, gan sicrhau bod y cymorth yn teimlo’n ddiogel, yn barchus ac yn briodol i bob unigolyn.
Rydym yn darparu cymorth arbenigol i bobl o bob rhyw sydd wedi profi trais rhywiol, gan gydnabod yr effaith ddofn y gall hyn ei chael ar les ac ymdeimlad o ddiogelwch unigolion. Mae ein gwasanaethau ar gael ledled Gwent ac wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion unigol.
Mae’r cymorth yn cael ei deilwra i bob unigolyn a gall gynnwys sesiynau un-i-un a rhaglenni grŵp, gan helpu unigolion i ddeall eu profiadau, adennill hyder a symud tuag at wella mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Rydym yn darparu cymorth arbenigol i bobl o bob rhyw sydd wedi profi trais rhywiol, gan gynnwys camfanteisio rhywiol, gan gydnabod yr effaith ddofn y gall hyn ei chael ar les ac ymdeimlad unigolion o ddiogelwch. Mae ein gwasanaethau ar gael ledled Gwent ac wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion unigol.
Mae’r cymorth yn cael ei deilwra i bob unigolyn a gall gynnwys sesiynau un-i-un a rhaglenni grŵp, gan helpu unigolion i ddeall eu profiadau, adennill hyder a symud tuag at wella mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Gall profi cam-drin, niwed neu drais wneud i chi deimlo’n ynysig ac yn ddryslyd. Gall ddigwydd mewn unrhyw berthynas ac effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo’u rhyw, eu hoedran neu eu cefndir. Os ydych chi’n ddyn sy’n wynebu cam-drin, niwed neu drais, mae’n bwysig gwybod:
Rydym yn deall pa mor anodd gall fod i siarad am eich profiadau. Bydd ein tîm yn gwrando gyda empathi a pharch, heb feio, rhagdybiaethau na beirniadaeth.
Gall cam-drin gymryd sawl ffurf, ac mae eich teimladau a’ch profiadau yn bwysig. Cewch eich credu a’ch cefnogi, beth bynnag yw eich sefyllfa.
Does dim rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun. Rydym yma i ddarparu arweiniad, cymorth ymarferol a chefnogaeth barhaus ar gyflymder sy’n iawn i chi.
Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol ac wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan gam-drin, niwed neu drais.
Cyngor a Chymorth Cyfrinachol
Gallwch siarad â gweithiwr cymorth mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol. Byddwn yn gwrando ac yn eich helpu i archwilio eich opsiynau.
Cynllunio Diogelwch
Gallwn weithio gyda chi i ddatblygu cynllun ymarferol i helpu i leihau risg a’ch cadw mor ddiogel â phosibl.
Cymorth Emosiynol
Rydym yn darparu cymorth parhaus sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’ch helpu i brosesu eich profiadau, adennill hyder a symud ymlaen.
Cyfeirio ac Atgyfeirio
Os oes angen cymorth ychwanegol neu arbenigol arnoch, gallwn eich cysylltu â sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi dynion.
Canllawiau Ymarferol
Gallwn ddarparu cymorth yn ymwneud â:
Deall Cam-drin a Trais Rhywiol
Nid yw cam-drin, niwed na thrais bob amser yn rhai corfforol. Gallant gynnwys:
Os nad yw pethau’n teimlo’n iawn, neu os ydych chi’n teimlo’n anniogel, mae’n bwysig ceisio cymorth.
Gall cymryd y cam cyntaf fod yn anodd, ond mae cymorth ar gael pan fyddwch chi’n barod. Gallwch gysylltu â ni i:
Rhannwch gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Rydym yma i wrando a deall yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo.
Byddwn yn eich cefnogi i ddeall eich dewisiadau a’r camau nesaf, gan roi’r amser a’r gofod i chi benderfynu beth sy’n iawn i chi.

Dewch o hyd i wybodaeth gyswllt eich tîm lleol

Cysylltwch â’n Gwasanaethau Cymorth Horizon am help, cymorth a chyngor