Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Telerau ac Amodau

Mae Cyfannol yn elusen gofrestredig gyda Rhif Cofrestru Elusen DU 1045890. Darperir mynediad i’r wefan hon a defnydd ohoni gan Cyfannol yn amodol ar y telerau ac amodau hyn:

Mae eich defnydd yn golygu derbyn y telerau ac amodau hyn ar ddyddiad eich defnydd cyntaf o’r wefan.

Mae Cyfannol yn cadw’r hawl i newid y termau ac amodau hyn ar unrhyw adeg drwy bostio newidiadau ar-lein. Mae eich defnydd parhaus o’r wefan hon ar ôl i newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb hwn fel y’i diwygiwyd.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithiol yn unig, mewn modd nad yw’n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar, nac yn atal defnydd a mwynhad o’r wefan gan unrhyw drydydd parti.

Darperir y wefan hon a’r wybodaeth, enwau, lluniau, delweddau, logos sy’n ymwneud â neu’n gysylltiedig i Cyfannol “fel ag y mae’ heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warantiad o unrhyw fath boed yn ddatganedig neu’n oblygedig. Ni fydd Cyfannol mewn unrhyw achos yn atebol dros unrhyw iawndal gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, iawndal anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw iawndal o gwbl sy’n deillio o’r defnydd neu mewn cysylltiad â defnydd o’r fath neu golli defnydd o’r wefan, boed hynny drwy gontract neu drwy esgeulustod.

Nid yw Cyfannol yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn ddi-dor neu’n rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod y wefan hon neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei fod ar gael y rhydd o firysau neu fygiau neu’n cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau.

 

Hawlfraint

Mae defnydd masnachol neu gyhoeddi’r cyfan neu unrhyw eitem sy’n cael ei arddangos wedi’i wahardd yn llwyr heb ganiatâd ymlaen llaw gan Cyfannol. Ni ddylid dehongli dim a gynhwysir yma fel pe bai’n rhoi unrhyw drwydded gan Cyfannol i ddefnyddio unrhyw eitem a arddangosir. Mae’r enw Cyfannol a holl logos, sloganau a dyluniadau Cyfannol yn nodau masnach, nodau gwasanaeth, enwau masnachu a hawliau dylunio Cyfannol ac ni ellir eu hatgynhyrchu heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Cyfannol. Mae rhai dogfennau a lluniau wedi’u cyhoeddi ar y wefan hon gyda chaniatâd y perchnogion hawlfraint perthnasol (nad ydyn nhw’n Cyfannol). Cedwir pob hawl ar y dogfennau hyn a rhaid gofyn am ganiatâd i’w copïo gan berchnogion yr hawlfraint (nodir y ffynonellau yn y dogfennau/ffotograffau hyn).

Ni all Cyfannol gymryd unrhyw gyfrifoldeb ac nid yw’n gwneud unrhyw warantau, sylwadau nac ymgymeriadau am gynnwys unrhyw wefan arall y ceir mynediad iddi drwy ddolen hyperdestun. Mae gwefannau eraill yr ydym yn cysylltu â nhw yn eiddo i ac yn cael eu gweithredu gan drydydd parti ac nid oes gan Cyfannol unrhyw reolaeth drostynt na’u hargaeledd. Nid yw’r ffaith ein bod yn cynnwys dolenni i wefannau eraill yn golygu bod Cyfannol yn cydsynio nac yn cymeradwyo unrhyw wefan trydydd parti arall neu gynnwys y wefan honno. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw ddatganiadau, gwybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau a gyhoeddir ar neu sy’n hygyrch trwy unrhyw wefannau y mae trydydd parti yn berchen arnynt neu’n eu gweithredu. Os ydych yn clicio ar ddolen a geir ar ein gwefan neu ar unrhyw wefan arall, gallwch wirio’r bar lleoliad o fewn eich porwr i ddarganfod a ydych wedi’ch cysylltu â gwefan wahanol.

Mae unrhyw gyfathrebiad neu ddeunydd y byddwch yn ei drosglwyddo i, neu’n ei bostio ar unrhyw ran gyhoeddus o’r wefan gan gynnwys unrhyw ddata, cwestiynau, sylwadau, awgrymiadau neu debyg, yn cael ei drin, a bydd yn cael ei drin fel gwybodaeth nad yw’n gyfrinachol ac nad yw’n berchnogol.

Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y telerau a’r amodau a rheolau hyn a/neu dermau defnydd penodol sy’n ymddangos ar y wefan hon sy’n ymwneud â deunydd penodol, yna’r olaf fydd drechaf.

Bydd y telerau a’r amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.

Os na dderbynnir y telerau a’r amodau hyn yn llawn, rhaid terfynu defnydd y wefan hon ar unwaith.

Ymwadiad

Er y gwnaed pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi, mae ymwelwyr sy’n defnyddio’r wefan hon ac sy’n dibynnu ar unrhyw wybodaeth yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain. Nid yw Cyfannol yn gwarantu ei chywirdeb ac yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb i unrhyw drydydd parti unrhyw le yn y byd am unrhyw anaf, iawndal, colled neu anghyfleustra sy’n codi o ganlyniad i unrhyw ddefnydd neu anallu i ddefnyddio unrhyw wybodaeth ar y wefan hon i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.

 

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan