Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Allgymorth Pendant

Rhannu hwn

Wedi’i ariannu gan Raglen Pobl a Lleoedd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Allgymorth Pendant yn brosiect Cymorth i Fenywod Cyfannol, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent.

Dechreuodd y prosiect, sy’n gweithredu ledled Gwent, yn 2018, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a ganfu fod unigolion sy’n profi cam-drin domestig yn ymgysylltu mwy â swyddogion pan oedd gweithiwr cymorth yn bresennol.

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol wedi datblygu’r prosiect Allgymorth Pendant i ymateb i ddioddefwr o gam-drin domestig ar adeg argyfwng ac i gynnig cefnogaeth cyn gynted â phosibl.

Y tîm Allgymorth Pendant

Mae ein gweithwyr cymorth wedi’u lleoli ym mhencadlys yr heddlu sy’n ymateb i alwadau cam-drin domestig, gan alluogi ymateb ar y cyd i ddigwyddiadau cam-drin domestig: gan wella asesiadau risg, cynnig cynllunio ar gyfer diogelwch a chyngor, a darparu eiriolaeth.

Mae’r tîm Allgymorth Pendant yn darparu cymorth yn syth i ddioddefwyr cam-drin domestig ar adeg digwyddiad cam-drin domestig. Gan weithio ochr yn ochr â Heddlu Gwent, mae’r tîm yn cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig ledled Gwent pan fyddant yn gwneud adroddiad cychwynnol i’r heddlu.

Mae ein gweithwyr cymorth Allgymorth Pendant:

  • yn gallu treulio amser gyda’r cleient, yn ei gartref neu dros y ffôn, drwy gefnogi’r unigolyn i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â’i ddiogelwch a’i ddyfodol.
  • yn gallu cefnogi cleientiaid wrth ddelio â’r heddlu a gwneud datganiad os mai dyma’r llwybr y mae’r cleient yn dymuno ei gymryd.
  • Bydd ein gweithwyr cymorth Allgymorth Pendant yn cwblhau asesiad cam-drin domestig, stelcian ac aflonyddu (DASH), ac, yn unol â chanlyniad yr asesiad hwn, yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau lleol i adeiladu pecyn cymorth priodol sy’n unigol i’r cleient.
  • Bydd ganddynt fynediad i fannau lloches ledled y DU ac yn gallu trefnu asesiad i’r cleient gael mynediad i loches os yw’n dymuno dianc rhag y gamdriniaeth.

Canlyniadau’r prosiect

Allgymorth Pendant yw’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, cefnogodd y tîm Allgymorth Pendant 410 o ddioddefwyr cam-drin domestig. Roedd yr holl gleientiaid hyn wedi cael eu hatgyfeirio at wasanaethau cymorth yn eu hardal a rhoddodd 294 ddatganiadau i’r heddlu am y cam-drin yr oeddent wedi’i brofi.

Yn ystod 3 blynedd gyntaf y Prosiect Allgymorth Pendant:

  • Roedd 98% o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cynllunio ar gyfer diogelwch
  • Cefnogwyd 52% i roi datganiadau ffurfiol i’r heddlu ynglyn â’r digwyddiad
  • Cydsyniodd 82% i asesiad cam-drin domestig sy’n helpu i nodi risgiau iddyn nhw a’u teuluoedd yn y dyfodol
  • Cydsyniodd 97% i rannu eu manylion gyda gwasanaethau cymorth arbenigol

Mae adborth gan yr heddlu wedi bod yn hynod gadarnhaol, gydag un swyddog yn dweud:

 

“Mae yna adegau mewn plismona lle mae angen achubiaeth arnoch i ddelio â digwyddiadau sydd angen y profiad, y wybodaeth a’r sgil hwnnw i ddeall beth sy’n digwydd a’r gallu i roi gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr hwnnw rydym yn ymdrechu i’w ddarparu. Dyna’n union yw’r tîm Allgymorth Pendant – rwyf bob amser yn gwybod y bydd y dioddefwr yn derbyn gofal gan y tîm.”

 

Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn a sut i wneud atgyfeiriad, ewch i’r tudalen gwasanaeth Allgymorth Pendant

Rhannu hwn

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan