Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

HWB i sgiliau Gwent wrth i wasanaethau newydd gael eu lansio ym Marchnad Casnewydd

yn CY CATEGORY, Other Rhannu hwn
Gwent Boost Launch

Mae Gwent BOOST yn brosiect aml-wasanaeth newydd sy’n gwasanaethu Casnewydd, Torfaen, Caerffili, Sir Fynwy a Blaenau Gwent. Mewn digwyddiad ym Marchnad Casnewydd ym mis Tachwedd, bu’r fenter a ariennir gan y Loteri yn dathlu gwerth arbenigedd bywyd er budd menywod sydd â sefyllfaoedd bywyd cymhleth, pobl nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus a phobl nad oes ganddynt fynediad at gyfleoedd i feithrin sgiliau na chael gwaith.

Mae Gwent BOOST yn bartneriaeth sy’n ceisio ‘Adeiladu ar ein Cryfderau Gyda’n Gilydd’. Mae’r prosiect pum mlynedd yn rhan o Grant Helpu i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n cynnwys y sefydliadau Cymreig canlynol:

 

Mewn digwyddiad lansio i fyny’r grisiau ym Marchnad drawiadol Casnewydd, daeth 85 o bobl o 23 o sefydliadau at ei gilydd ddydd Iau 16 Tachwedd. Ond eisoes, mae Gwent BOOST wedi cychwyn ar y gwaith ar unwaith.

Y fenter gymdeithasol sy’n cael ei rhedeg gan bobl sydd â phrofiad bywyd: Mae BOOST yn datblygu’r syniad o fenter gymdeithasol sydd wedi’i chydgynhyrchu, gan greu ffrwd swyddi hyfyw i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd neu galedi. Mae 12 o bobl eisoes wedi bod yn gysylltiedig â’r gwaith o gyd-ddylunio gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Gwent BOOST gyda The Wallich.

Rhaglen Cynghori Cyfoedion wedi’i Thargedu: Nod y prosiect yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Ngwent i fenywod sydd wedi bod drwy sefyllfaoedd cymhleth mewn bywyd dros gyfnod o bum mlynedd. Gan gynnig hyfforddiant a lleoliad â thâl i’r rheini sy’n cael gweithio. Mae BOOST wedi datblygu rhwydwaith o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat sy’n gallu ac yn barod i ddarparu lleoliadau i’r rheini sy’n mynd drwy’r rhaglen.

Mae 3 o fenywod wedi cwblhau’r cwrs ‘Dysgu Cynghori’ gyda St Giles; dyma’r drydedd garfan o bobl sydd wedi rhoi hwb i’w sgiliau. Dywedodd un cyfranogwr, “Mae gen i fwy o hyder ac uchelgais i symud ymlaen gyda fy nyfodol” ar ôl gwneud y cwrs.

Rhwydwaith Eiriolwyr ar gyfer Landlordiaid a thenantiaid: Mae’r model Hyrwyddwyr yn darparu llwyfan ar gyfer datblygu arferion da yn y sector a sicrhau canlyniadau mwy cadarnhaol i’r holl randdeiliaid. Mae Hyrwyddwyr Landlordiaid a Thenantiaid Gwirfoddol o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu mentrau ar y cyd.

Mae Tai Pawb eisoes wedi darparu pedair sesiwn galw heibio lle bu dros 50 o bobl yn cymryd rhan, ac mae hefyd wedi cynnal tri digwyddiad i landlordiaid, gyda chyfanswm o 225 o bobl yn bresennol ar draws y digwyddiadau.

Cefnogaeth seicoleg glinigol ledled Gwent: Bydd adeiladu cefnogaeth seicolegol clinigol ar gyfer staff cymorth digartrefedd, wedi’i ategu gan arferion da gan dimau Grant cymorth tai Caerffili, yn sicrhau gweithlu cadarn a hirdymor sy’n delio â phwysau a galw cynyddol. Mae 20 o bobl eisoes wedi cael cynnig cymorth seicolegol gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Yng Nghasnewydd a Chaerffili, mae 43 o staff a defnyddwyr gwasanaeth wedi mynychu sesiynau galw heibio.

Rhaglen wirfoddoli ar gyfer pobl nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus: mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi cofrestru 8 mudiad a fydd yn derbyn ceiswyr lloches a ffoaduriaid fel gwirfoddolwyr. Maent wedi hwyluso lleoliadau gwirfoddoli sy’n defnyddio’r sgiliau sydd gan bobl yn barod, fel cyfieithu ar y pryd, cyfieithu, gofalu am blant ac addysgu, sgiliau y mae gwir eu hangen i lenwi bylchau sgiliau’r ardal.

 

Dywedodd Sam Taylor, Rheolwr Gwent BOOST, o brif bartner y prosiect The Wallich, “Dydy Gwent BOOST ddim yma i gymryd drosodd gan sefydliadau sy’n gwneud gwaith gwych. Y nod yw dod â phawb at ei gilydd i weithio ar y cyd, rhannu syniadau a chreu cyfleoedd i bobl ddefnyddio ein gwasanaethau i lywio’r hyn sydd ei angen arnynt.

“Rydyn ni eisoes yn gweld diddordeb ardderchog a phobl yn symud i ddyfodol mwy cadarnhaol. Wrth i ni weithio gyda mwy o unigolion i hybu eu sgiliau a’u lles, rydyn ni’n lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yng Ngwent yn colli eu cartrefi neu’n teimlo’n ansicr am eu dyfodol.”

Mae BOOST yn brosiect pum mlynedd a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel rhan o grant Cymorth i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd gwerth £10 miliwn. Lansiwyd y grant gyda’r nod o atal a mynd i’r afael â digartrefedd, gan ei wneud yn beth prin, byrhoedlog nad yw’n digwydd dro ar ôl tro.

Rhagor o wybodaeth am brosiect Gwent BOOST: https://thewallich.com/cy/gwasanaethau/gwent-boost/

Rhannu hwn

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan