Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae pob milltir a phob ceiniog yn cyfrif pan ddaw hi’n fater o redeg i Cyfannol felly beth am ymgymryd â’r her?!
Sut i gymryd rhan…
Gallwch gymryd rhan mewn unrhyw her elusen o’ch dewis a chodi arian ar gyfer ein goroeswyr. P’un a ydych yn gosod nod ffitrwydd i chi’ch hun, yn cyflawni uchelgais gydol oes, neu’n nodi carreg filltir – gwthiwch eich hun i’r eithaf a helpwch ni i fod yno ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Efallai bod yna ddigwyddiad lleol rydych chi wedi bwriadu cofrestru ar ei gyfer, profiad unwaith mewn oes ar eich rhestr bwced, neu efallai eich bod am drefnu eich her eich hun. Dyma rai pethau a allai fod yn ddefnyddiol i chi eu hystyried wrth feddwl am eich cynlluniau.
Mae yna lawer o leoliadau a chyrsiau eiconig yr hoffech chi gymryd rhan ynddynt, efallai eu bod hyd yn oed ar stepen eich drws. Ewch i’r gwefan Run 4 Wales i weld digwyddiadau lleol.
Gallech herio eich hun i gwblhau hanner Marathon ym mhrifddinas Cymru. Cawsom lwyddiant mawr gyda’r digwyddiad hwn yn 2022 gyda dros £1,000 wedi’i godi.
Eleni, i anrhydeddi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym wedi trefnu her rhedeg i Cyfannol gwych. Rydym wedi rhoi’r opsiwn i chi redeg pellteroedd amrywiol sy’n addas ar gyfer unrhyw fath o redwr.
Bydd unrhyw arian yr ydych wedi’i godi ar Just Giving yn dod drwodd i ni’n awtomatig. Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn cau eich tudalen codi arian unwaith y byddwch wedi derbyn eich rhoddion olaf.
Os ydych wedi bod yn codi arian gyda ffurflen noddi bapur, yna gofynnwn i chi ddychwelyd yr arian hwn atom cyn gynted â phosibl, ond beth bynnag o fewn pedair wythnos i ddyddiad y Digwyddiad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gael yr arian hwn i ni ar ein tudalen rhoddion.
Y ffordd hawsaf i ddechrau codi arian yw creu tudalen JustGiving. Fodd bynnag, bydd angen i chi sicrhau bod eich tudalen yn sefyll allan trwy ei phersonoleiddio cymaint â phosib. Y tair ffordd hawsaf yw:
Yn ôl JustGiving, mae pobl sy’n codi arian sy’n gwneud y tri pheth hyn yn codi, ar gyfartaledd, tua 50% yn fwy na’r rhai nad ydyn nhw!
Gallwch ddarganfod sut i greu tudalen JustGiving yn y dolenni cysylltiedig.
Peidiwch â bod ofn symud i ffwrdd o ddibynnu ar roddion gan deulu a ffrindiau yn unig. Byddwch yn greadigol a chynlluniwch rai gweithgareddau i gefnogi eich codi arian. Boed yn gwerthu cacennau neu noson gwis, mae yna nifer o ffyrdd gwych o godi arian. I gael syniadau, darllenwch ein Canllaw A-Y Syniadau Codi Arian.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ni fundraising@cyfannol.org.uk
Os ydych chi eisoes wedi prynu eich lle yn y digwyddiad hwn, gwych! Byddem wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan gyda’r Tîm Cyfannol.
Gofynnwn i chi godi’r hyn a allwch fel y gallwn barhau i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig a thrais rhywiol. Gallwch lawrlwytho ein pecyn codi arian yma.