Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae rhoi er cof am anwyliaid i Cymorth i Fenywod Cyfannol yn ffordd ystyrlon o greu etifeddiaeth iddynt ac yn helpu i greu dyfodol mwy disglair i oroeswyr cam-drin.
P’un a hoffech roi anrheg untro, cynnal casgliad angladd neu osod cronfa deyrnged barhaol, mae eich cefnogaeth yn helpu Cyfannol i helpu pobl ddianc o gam-drin a theimlo wedi’u grymuso i ddechrau bywyd newydd ar ôl cam-drin.
Rydyn ni mor ddiolchgar eich bod yn meddwl am anrhydeddu rhywun oedd yn golygu llawer i chi trwy gefnogi Cyfannol. Os oes angen help arnoch, cysylltwch â ni drwy e-bostio fundraising@cyfannol.org.uk.
Gosodwch gronfa deyrnged i gofio anwyliaid. Ychwanegwch luniau ac atgofion, casglwch roddion, a rhannwch fanylion unrhyw ddigwyddiadau codi arian rydych chi’n ei gwneud er cof amdanynt.
Creu cronfa deyrnged
Mae creu cronfa deyrnged ar JustGiving yn darparu lle ar-lein i gofio eich anwyliaid. Gallwch ddathlu eu bywyd a phopeth a’u gwnaeth yn unigryw trwy ychwanegu lluniau a rhannu atgofion tra hefyd yn cefnogi Cyfannol.
Codi Arian
Ohttps://www.justgiving.com/cyfannols ydych chi neu eich ffrindiau neu aelodau eich teulu yn trefnu neu’n cymryd rhan mewn digwyddiad i gofio rhywun agos, gallwch greu tudalen codi arian er cof yn JustGiving.
P’un a ydych yn cynnal bore coffi, yn cymryd rhan mewn digwyddiad her, yn trefnu dawns, neu’n gwneud rhywbeth cwbl unigryw yn enw’r person rydych yn ei gofio, gall unrhyw un sy’n ymweld â’ch tudalen JustGiving weld bod y digwyddiad yn cael ei gynnal a gall ddarganfod rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan.
Mae llawer o deuluoedd yn casglu rhoddion er cof mewn angladd neu ddathliad o fywyd anwyliad fel ffordd arbennig o’u cofio. Darganfyddwch sut y gallwn eich helpu gyda chasgliadau coffa ar-lein ac yn bersonol.
Casglu rhoddion ar-lein
Mae’n bosib y byddwch yn penderfynu cael casgliad ar-lein ar gyfer eich anwyliad. Os felly, darllenwch ein gwybodaeth ar sut i greu cronfa deyrnged. Gellir rhannu cronfeydd teyrnged â ffrindiau a theulu fel y gallant adael rhoddion a negeseuon unrhyw bryd.
Casglu rhoddion yn bersonol
Os byddwch yn dewis cael casgliad coffa mewn angladd, neu ddathliad o fywyd, gallwn roi bwcedi casglu i chi am y diwrnod. Gallwch hefyd lawrlwytho ein ffurflen Rhodd Cymorth, a fydd yn helpu’r arian a godwch i fynd ymhellach.
Os ydych yn gwneud trefniadau angladd, efallai y gall eich trefnydd angladdau eich helpu i drefnu’r casgliad hwn.
Talu eich casgliad i mewn
Os ydych yn postio eich casgliad atom, sicrhewch eich bod yn rhoi’r wybodaeth ganlynol i ni fel y gallwn gydnabod eich haelioni’n briodol.
Enw’r person y mae’r cronfeydd er cof amdano
Eich manylion, ac i ble’r hoffech i ni bostio cydnabyddiaeth
Dylid anfon rhoddion wedi’u postio a ffurflenni Rhodd Cymorth wedi’u cwblhau at:
Cymorth i Fenywod Cyfannol
3 Town Bridge Buildings
Park Road
Pont-y-pŵl
NP4 6JE
Mae codi arian er cof yn ffordd y mae llawer o bobl yn dewis dathlu bywyd anwyliad, a gwneud gwahaniaeth i bobl sy’n ffoi o gam-drin yng Ngwent.
Trefnu digwyddiad eich hun er cof
Os hoffech drefnu digwyddiad er cof am eich anwyliad, gallwn eich helpu i wneud hyn. Boed yn ddawns goffa, noson karaoke, diwrnod o hwyl i’r teulu, neu rywbeth a oedd yn arbennig iddyn nhw, mae gennym lawer o syniadau codi arian ac awgrymiadau i wneud eich digwyddiad yn llwyddiant.
Gadael rhodd yn eich ewyllys yw un o’r pethau mwyaf effeithiol y gallwch chi ei wneud i helpu pobl yng Ngwent i ffoi rhag perthnasoedd camdriniol.
Dechreuwch gynllunio i Adael Cof Parhaol heddiw.