Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Gadael rhodd yn eich ewyllys yw un o’r pethau mwyaf effeithiol gallwch chi ei wneud i helpu menywod a phlant i ffoi.
Mae’ch ewyllys yn arbennig ac yn unigryw i chi, yn gwmws fel y rhai rydych chi’n eu caru. Chi sydd i benderfynu pwy sy’n cael ei gynnwys ynddo, sut fyddwch chi’n rhannu’ch ystad a phwy yr ydych yn gofyn iddynt weithredu fel ysgutorion. Felly, beth am adael rhodd yn eich ewyllys i elusen yr ydych chi neu anwylyn yn edmygu?
Mae llawer o gefnogwyr yn dewis cofio’u hoff elusennau yn eu Hewyllys unwaith y bydd dyfodol eu teulu wedi’i ddiogelu. Mae rhoddion elusennol wedi’u heithrio rhag treth etifeddiant, felly trwy roi i Cymorth i Fenywod Cyfannol, gallwch leihau swm y dreth sy’n daladwy ar eich ystad yn sylweddol.
Gadael etifeddiaeth o ryddid. Gyda rhodd i Cyfannol yn eich ewyllys, gallwch wneud llawer i sicrhau bod menywod a phlant yn derbyn yr help a chymorth sydd eu hangen arnynt yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’n bwysig i chi wneud Ewyllys p’un a ydych yn ystyried bod gennych lawer o eiddo neu lawer o arian ai peidio.
Gallwch gynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol. Gall hyn olygu rhoi arian o’r neilltu. Yn Cyfannol rydym yn sylweddoli mai’ch anwyliaid sy’n dod yn gyntaf bob amser, ond bydd pob rhodd yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Ni all partneriaid nad ydynt yn briod ac nad ydynt wedi cofrestru partneriaeth sifil etifeddu o’i gilydd oni bai bod ewyllys.
O dan y gyfraith bresennol, os yw’ch ystad werth mwy na £325,000, bydd yn rhaid i’ch buddiolwyr dalu 40% o’r rhan sydd dros y trothwy i CThEF.
Beth bynnag fo maint y rhodd a wnewch, bydd yn cael effaith ar y rhai rydym yn eu cefnogi, a gallwn weithio gyda’n gilydd i wireddu eich dymuniadau.
Bob blwyddyn, mae ein gwasanaethau cymorth yn achub bywydau ac yn helpu miloedd o fenywod sy’n ffoi rhag cam-drin. Fodd bynnag, er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn, bydd angen cyllid hirdymor arnom. Ni allem gadw’n drysau ar agor heb roddion etifeddiaeth hael a chefnogwyr.
Rydym yn ymgysylltu â Heddlu Gwent, ysgolion lleol, a chymunedau i gynnig adnoddau iddynt sy’n chwalu mythau a chamsyniadau ynghylch cam-drin tra hefyd yn eu cynorthwyo i ymateb yn llwyddiannus i oroeswyr.
Efallai y gallwch chi ein helpu ni i roi dyfodol gwell o ryddid a diogelwch i oroeswyr. Oherwydd rhoddion etifeddiaeth, gallem roi cartrefi symud ymlaen iddynt ar ôl iddynt adael y lloches a dechrau bywyd newydd.
Os ydych yn ystyried gadael rhodd yn eich Ewyllys, dyma rai cwestiynau cyffredin a allai eich helpu i benderfynu a ydych am ein cefnogi.
Un o’r ffyrdd mwyaf dwys y gallwch ein cefnogi ymhell i’r dyfodol yw gadael rhodd yn eich Ewyllys. Mae elusennau’n dibynnu ar roddion mewn Ewyllysiau i barhau â’u gwaith.
Pan fyddwch yn dechrau cynllunio’ch Ewyllys gall fod yn syniad da nodi eich holl asedau, rhwymedigaethau ac ystadau. Yna gallwch chi benderfynu beth hoffech chi ei adael ac i bwy. Gall hefyd fod yn bwysig cynnwys unrhyw ddymuniadau sydd gennych yr hoffech i’ch anwyliaid eu dilyn.
Efallai y bydd teulu a ffrindiau’n gallu argymell cyfreithiwr da. Fel arall, os ydych yn byw yn y DU gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr lleol drwy Gymdeithas y Cyfreithwyr (gweler y dolenni perthnasol).
Na fyddant, teulu a ffrindiau sy’n dod yn gyntaf bob amser. Ond os, ar ôl edrych ar eu hôl nhw, mae gennych hyd yn oed swm bach yn weddill, gallai rhodd i Cyfannol yn eich Ewyllys wneud y byd o wahaniaeth i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi yn y dyfodol.
Gallwch, mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer elusen fach megis Cymorth i Fenywod Cyfannol. Mae pob rhodd, waeth pa mor fach, yn gwneud gwahaniaeth ac yn ein galluogi i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i’r rhai sy’n ffoi o unrhyw fath o gam-drin.
Allwch, ond fe’ch cynghorir i drafod hyn gyda ni yn gyntaf. Nid yw bob amser yn bosibl i ni ddefnyddio rhodd yn y ffordd rydych chi ei eisiau, ond gallwn weithio gyda’n gilydd i geisio sicrhau bod eich dymuniadau o fudd i ni yn y dyfodol.
Nac oes, mae rhoddion a adewir i elusennau yn eich Ewyllys yn ddi-dreth. Defnyddiwch Gyfrifiannell CThEF (gweler y dolenni cysylltiedig) i gyfrifo sut y byddai gadael etifeddiaeth yn eich Ewyllys yn effeithio ar y dreth a dalwch ar eich ystad. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.
Na, mae yna dri math o rodd gallwch chi eu gadael i elusennau.
Byddwch yn gallu trafod hyn ag ymgynghorwr proffesiynol i’w wneud yn glir beth yn gwmws rydych chi am ei adael.
Mae rhoi mewn cof yn ffordd arbennig i gofio rhywun, tra hefyd yn gwneud gwahaniaeth i bobl y mae ffurf o gam-drin yn effeithio arnynt.