Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Sut caiff eich arian ei wario

Pan fyddwch yn rhoi arian i ni, rydym yn credu bod gennych yr hawl i wybod sut caiff eich rhodd ei wario sut effaith bydd yr arian yn cael ar fywydau’r bobl rydym yn eu cefnogi. 

One person holding another person hand to show support.
One person holding another person hand to show support.

Yn 2021/2022

Cafodd 3,746

o fenywod, dynion, a phlant eu cefnogi yng Ngwent. 

Cefnogwyd 308

o bobl mewn llochesau 

Derbyniodd 215

o oroeswyr trais rhywiol cwnsela 

Cwestiynau Cyffredin

Mae costau ein prosiectau yn cynnwys:  

  • Costau staff y rheng flaen, gan gynnwys eu recriwtio a lles (hyfforddiant, costau, iechyd a diogelwch, a lles). Mae hyn yn cyfrif am 66% o’n holl gostau. 
  • Y seilwaith i staff gyflawni eu rolau h.y. ffonau, cyfrifiaduron. 
  • Costau prosiectau penodol megis llyfrau ar gyfer gwaith grŵp, costau lloches, a llogi ystafelloedd cwnsela. Mae rhentu llochesi gan gymdeithasau tai yn un o’n costau prosiect mwyaf. 
  • Marchnata ar gyfer codi ymwybyddiaeth o wasanaethau, i sicrhau bod pawb sydd angen cymorth yn gwybod ein bod ni yma.  
  • Monitro a gwerthuso, lle rydym yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau sy’n hygyrch ac o safon uchel.  
  • Costau swyddfa. Rydym yn credu ei fod yn bwysig bod pobl sydd wedi profi unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, neu drais rhywiol yn gallu siarad â rhywun yn bersonol ac na ddylent orfod teithio’n bell i wneud hynny, a dyna pam mae gennym ganolfan bwrpasol ym mhob sir yr ydym yn gweithredu ynddi. 

Mae ein costau craidd yn cynnwys yr holl staff swyddfa gefn sydd eu hangen i redeg gwasanaethau.  Mae’r rhain yn cynnwys:  

  • Cyllid  
  • Adnoddau Dynol  
  • Cyfleusterau (yn cwmpasu ein swyddfeydd a thai)  
  • Llywodraethu   

Gyda’i gilydd maen nhw’n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Chyfraith Elusennau, Cyfraith Cwmnïau, a rheoliadau cyflogaeth, iechyd a diogelwch, a thai.  Maent yn sicrhau bod ein staff yn cael eu recriwtio, bod biliau’n cael eu talu, a chyfleoedd ar gyfer prosiectau newydd yn cael eu nodi.   

Mae ein tîm codi arian yn gyfrifol am gynnal incwm Cyfannol fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau.  Gwneir hyn drwy:  

  • Godi arian yn y gymuned drwy ymgyrchu, noddi neu bartneriaethau corfforaethol.  
  • Ymgeisio am gontractau sector cyhoeddus sy’n cynnwys gwasanaethau cymorth cymunedol a lloches.  
  • Ymgeisio am grantiau o ymddiriedolaethau a sefydliadau fel Plant mewn Angen neu Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.  
  • Datblygu prosiectau newydd sy’n cynhyrchu eu hincwm eu hunain.  

Mae rhan fwyaf o’n hincwm yn dod o gontractau sector cyhoeddus a grantiau i ddarparu prosiectau penodol.  Er nad yw’n ffynhonnell incwm fawr, mae ein codi arian cymunedol yn hynod o bwysig gan ei fod yn ein galluogi i ariannu amrywiaeth o weithgareddau yr ydym yn cael anhawster i’w hariannu mewn mannau eraill, gan gynnwys cludiant i loches, bwyd i deuluoedd newydd sy’n cyrraedd, a gweithgareddau teuluol yn y gymuned.    

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, sydd i gyd yn ddi-dâl, yn gosod ein cyflogau yn seiliedig ar feincnodi gydag elusennau a rolau tebyg.     

Rydyn ni’n ceisio blaenoriaethu cyflogau ein staff rheng flaen, ac rydym yn eu talu cymaint ag y gallwn o fewn ffiniau ein contractau llywodraeth.  Mae gweithiwr cymorth llawn amser sy’n gweithio gyda ni ar hyn o bryd yn ennill £2,500 y flwyddyn, sydd ar ben uchaf y cyflogau presennol o fewn y sector.  

Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i ni adrodd i’r Comisiwn Elusennau yn flynyddol ar ein niferoedd staffio a’n cyflogau sydd i’w gweld yma. 

Mewn elusen, mae elw yn cael ei alw’n arian dros ben – incwm dros ben.  Pan fydd gennym arian dros ben, mae hyn yn mynd i mewn i’n cronfeydd, sef yr incwm a neilltuwyd ar gyfer pan fydd ein hincwm yn disgyn.  Rydym hefyd yn defnyddio’r arian dros ben hwn i ariannu prosiectau prawf, costau annisgwyl fel boeler newydd ar gyfer swyddfa, neu gostau yr ydym yn cael trafferth codi arian ar eu cyfer megis gwely a brecwast brys os na allwn gael teulu i loches ar unwaith. 

“Maen nhw’n eich trin chi fel teulu o’r eiliad y byddwch yn cwrdd â nhw, maen nhw’n mynd uwchlaw a thu hwnt, a byddaf bob amser yn ddiolchgar i staff gwych Cymorth i Fenywod Cyfannol.”

Goroeswr Cyfannol

Ein Hadroddiadau Blynyddol

Mae ein hadroddiadau blynyddol yn amlygu’r hyn rydym wedi’i wneud i greu newid a chodi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Ni fyddai hyn yn bosibl heb gymorth ein cefnogwyr ymroddedig yn penderfynu gweithredu – o godi arian a rhoi arian i gefnogi ein gwasanaethau i godi ymwybyddiaeth yn eu cymunedau lleol. 

Darganfyddwch beth rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd dros y blynyddoedd yn ein hadroddiad blynyddol.

Ein hadroddiadau blynyddol diweddaraf 

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan