Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Lawrlwythwch unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich digwyddiad, os oes angen newid unrhyw beth neu i greu, cysylltwch â ni drwy e-bostio fundraising@cyfannol.org.uk i weld beth allwn ni ei wneud i chi.
Os ydych yn barod i gychwyn arni, lawrlwythwch y pecyn cymorth codi arian i’ch helpu i drefnu eich ymdrech codi arian.
Dylai codi arian fod yn hwyl, ond mae’n bwysig bod popeth yn ddiogel ac yn gyfreithlon, i bawb dan sylw. Cynlluniwch ymlaen llaw a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud pethau’n iawn.
Eisiau ei gwneud hi’n haws casglu rhoddion ar gyfer eich digwyddiad a’u hanfon yn uniongyrchol atom ni? Beth am ddefnyddio’r canllaw hwn i wella eich tudalen JustGiving eich hun?
Beth am ddefnyddio un o’n tracwyr gweithgarwch i gadw golwg ar y pellter rydych wedi’i wneud yn ystod eich her?
Eisiau rhannu eich cyflawniadau gyda’r byd wrth gymryd rhan mewn her codi arian ffitrwydd JustGiving? Er mwyn diweddaru pawb ar eich cynnydd, gallwch gysoni eich tudalen codi arian gyda Fitbit neu Strava.
Os oes angen i chi addurno lle, ystyriwch lawrlwytho ac argraffu bras gyda bylchau ar gyfer darluniau a dyfyniadau grymusol i ddangos eich cefnogaeth i Cyfannol.
I ddangos eich cefnogaeth wrth bostio am eich digwyddiad codi arian Cyfannol ar-lein, lawrlwythwch ein placardiau cefnogaeth.
Lawrlwythwch ein posteri bore coffi Cyfannol a’u gosod yn eich cymuned i annog pobl i siarad a chodi arian i Cyfannol wrth i chi gyd gyfarfod a siarad dros baned o goffi.
Lawrlwythwch ein posteri Diwrnod Siwmper Nadolig Cyfannol a’u gosod yn eich cymuned i annog pobl i gefnogi Cyfannol ac arddangos eich gwisgoedd Nadoligaidd.
Lawrlwythwch ein posteri Gwerthu Cacennau a’u gosod yn eich cymuned i annog pobl i gymryd rhan yn y digwyddiad, cefnogi Cyfannol, a mwynhau sleisen neu ddau. Mae gennym ni addurniadau cacennau hefyd!
Oes gennych awgrymiadau gwahanol ond nid oes poster ar gael? Beth am lawrlwytho’r poster syml hwn ac ychwanegu’r wybodaeth i hyrwyddo eich digwyddiad?
Oes gennych unrhyw gynlluniau a fydd yn gofyn am nawdd? Peidiwch ag anghofio lawrlwytho’r ffurflen hon fel bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i gasglu rhoddion.
Oeddech chi’n gwybod y gallwch ennill arian ychwanegol yn ystod rhai digwyddiadau heb wneud unrhyw waith? Lawrlwythwch ein ffurflen Rhodd Cymorth i gasglu gwybodaeth gan ein rhoddwyr.
Lawrlwythwch ein ffurflen ganiatâd fel y gallwn sôn am eich ymdrechion codi arian.