Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Cymorth i blant a phobl ifanc

Children's playroom with stuffed animals, blankets and toys scattered throughout.
Children's playroom with stuffed animals, blankets and toys scattered throughout.

Rydym yn cynnig gwaith grŵp i blant 7 i 11 oed a’u gofalwyr nad ydynt yn cam-drin, gyda’r nod o wella cyfathrebu ar ôl i drais domestig ddod i ben. 

Grwpiau STAR

Mae “Safety, Trust and Respect” (Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch) yn brosiect gan Cymorth i Fenywod Cyfannol, yn gweithio gyda phlant ifanc sydd wedi bod yn dystion i gam-drin domestig. 

Wedi’i chyflwyno yn Sir Fynwy a Thorfaen, nod y rhaglen STAR yw lleihau’r potensial i blant ddatblygu ymddygiad ymosodol gan hwyluso cyfathrebiad gwell rhwng plant 7-11 oed a’u rhiant/gofalwr nad ydyn nhw’n cam-drin, wrth gefnogi rhieni/gofalwyr i ddeall sut mae’r gamdriniaeth wedi effeithio ar eu plentyn a sut i gefnogi eu plentyn i deimlo’n ddiogel. 

Cyflawnir y canlyniadau hyn gan gynnal dau grŵp cyfochrog dros gyfnod o 10 wythnos: un ar gyfer hyd at wyth o blant, a’r llall ar gyfer eu rhiant/gofalwr. 

 

Cryfhau'r Perthynas Rhwng Rhiant a Phlentyn

Mae Cryfhau’r Perthynas Rhwng Rhiant a Phlentyn yn rhaglen 7-8 wythnos i blant a phobl ifanc 7-11 oed ym Mlaenau Gwent a Chasnewydd. 

Cynlluniwyd y sesiynau ar gyfer plant a rhieni/gofalwyr lle mae’r plentyn wedi profi neu fod yn dyst i gam-drin domestig ac yn cael anawsterau gyda’i deulu a’i berthynas â chyfoedion. 

Mae’r rhaglenni hyn yn cefnogi plant:

  • i deimlo’n ddiogel

  • i fynegi’u teimladau mewn ffordd iach 

  • i ddeall nid eu bai nhw oedd y cam-drin

  • i ddysgu sut i gyfathrebu gyda’u rhiant/gofalwr nad oedd yn gamdriniol yn fwy positif

Sut i atgyfeirio neu ddysgu rhagor...

I atgyfeirio i un o’r gwasanaethau hyn, i wneud ymholiad neu i ddysgu rhagor, ffoniwch ni ar 03300 564456 neu e-bostiwch eich swyddfa leol: 

 

Gwybodaeth Gyswllt

Taflen STAR

Lawrlwytho eitem

Perthynas Rhwng Rhiant a Phlentyn Ar Trac – Cymraeg

Math o gyhoeddiad: Taflen wybodaeth Lawrlwytho eitem
Gweld pob un

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan