Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)

Cymorth i blant a phobl ifanc

Children's playroom with stuffed animals, blankets and toys scattered throughout.
Children's playroom with stuffed animals, blankets and toys scattered throughout.
Person, with their back to the camera, standing on top of a mountain with their arms outstretched.

Mentora i blant 5-11 oed

Darperir rhaglenni mentora gan Cymorth i Fenywod Cyfannol yn Sir Fynwy a Thorfaen, fel rhan o raglen a ariennir gan BBC Plant mewn Angen, ac ym Mhlaenau Gwent a Chasnewydd fel rhan o’r prosiect Ar Trac. 

Mae’r rhaglenni hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr, sy’n ymrwymo i ddwy awr yr wythnos i fentora plant 5-11 oed ar sail un i un, gan eu cymryd allan unwaith yr wythnos am flwyddyn am rhwng dwy a phedair awr. Bydd mentoriaid yn cael eu paru gyda phlant yn seiliedig ar eu diddordebau, sgiliau a phersonoliaethau. 

Mae’r plant sydd wedi’u hatgyfeirio i’r rhaglenni hyn wedi bod yn dystion i gam-drin domestig yn ystod eu bywydau ifanc. Nod y rhaglen fentora yw cynyddu eu hunan-barch, gan annog newid yn y ffordd y maent yn ystyried eu hunain ac eraill, a’u helpu i ddod o hyd i ffordd ddiogel o fynegi eu hunain. 

Mentora i blant 11-16 oed

Yn Nhorfaen a Sir Fynwy, mae mentora a ariennir gan BBC Plant Mewn Angen i fechgyn 11-16 oed yn cael eu hwyluso trwy grŵp bach dros 12 wythnos. Mae’r prosiectau yr ymgymerir â nhw trwy’r sesiynau hyn yn cynnwys gweithdai sgiliau goroesi yn yr awyr agored a gweithgareddau creadigol, fel creu cerddoriaeth a ffilmiau. 

Mae’r prosiect grŵp arbennig hwn yn rhoi rhywfaint o amser rhydd o broblemau i bobl ifanc, gydag agwedd sy’n canolbwyntio ar atebion i adeiladu ar eu hunaniaeth a’u paratoi i ddatblygu’n ddynion ifanc caredig a hyderus. 

Am gymorth grŵp i fechgyn ym Mlaenau Gwent a Chasnewydd, gweler y dudalen Cymorth Grŵp. 

Beth mae mentora yn ei olygu?

  • Gallai sesiynau un i un gynnwys mynd i amgueddfeydd, mynd i’r parc, chwarae chwaraeon, coginio gyda’ch gilydd neu unrhyw beth a fydd yn ennyn diddordeb a brwdfrydedd y plentyn. 

  • Mae cyllidebau cyfyngedig yn sicrhau gweithgareddau ystyrlon yn hytrach na phethau drud heb ystyr. 

  • Mae mentoriaid yn gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar atebion i annog y plant i ddod o hyd i’w cryfderau a gwneud newidiadau cadarnhaol 

  • Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol, y mentor, y plentyn, a’r rhiant yn gosod tri nod i’r plentyn gweithio tuag atynt. 

  • Mae mentoriaid yn gweithio tuag at ddiweddglo cadarnhaol, sy’n cael ei nodi gan seremoni raddio. 

Mae ein mentoriaid yn helpu plant i ddod o hyd i gymhelliant a diddordebau, datblygu sgiliau bywyd a sianelu eu hegni i brosiectau sy’n annog ymdeimlad o gyflawniad personol. Maent yn berson o gysondeb i’r plentyn; rhywun y gallant gael hwyl a rhoi cynnig ar bethau newydd gyda nhw. 

Effaith hirdymor

Gall mentora cael effaith hirdymor cadarnhaol ar blant, drwy wella:

  • Hyder 

  • Canolbwyntio 

  • Perthynas â Chymheiriaid 

  • Cynnydd Academaidd 

  • Dealltwriaeth o ganlyniadau eu gweithredodd 

Dangosodd ein gwerthusiad o’r rhaglen fentora a ariennir gan Blant Mewn Angen, ar ôl cwblhau mentora:

bod 100%

o’r plant wedi mynd o gael anawsterau ymddygiad sylweddol (yn yr ystod annormal) i fod heb unrhyw anawsterau ymddygiad arwyddocaol. 

nad oedd gan 60%

o’r plant unrhyw anawsterau ymddygiad ar ddiwedd yr ymyriad (ymhell o fewn yr ystod arferol)

Roedd yn braf cael oedolyn nad oedd yn rhaid i mi ei rannu gyda fy chwiorydd. Roeddwn i’n gallu siarad â nhw am bethau. Byddai’n rhoi cyngor da i mi, fel peidio ag ymladd. Dwi wir ddim yn gwybod pam wnes i ymladd yn yr ysgol. Fe wnaeth fy rhoi mewn trafferth gyda fy athrawon a byddent yn ysgrifennu at fy mam. Mae hi’n dweud fy mod i’n hapusach nawr.

Rhywun a gymerodd ran yn y rhaglen fentora

Sut i atgyfeirio neu ddysgu rhagor...

I atgyfeirio i un o’r gwasanaethau hyn, i wneud ymholiad neu i ddysgu rhagor, ffoniwch ni ar 03300 564456 neu e-bostiwch eich swyddfa leol: 

 

Gwybodaeth Gyswllt

Mentoring leaflet:

Taflen mentora

Math o gyhoeddiad: Taflen Lawrlwytho eitem

Mentora Ar Trac – Cymraeg

Math o gyhoeddiad: Taflen Lawrlwytho eitem
Gweld pob un

Tanysgrifio i'n Newyddlen

Cofrestrwch nawr os hoffech gael y newyddion a’r mewnwelediadau diweddaraf gan Cyfannol!

Dewiswch yr holl ffyrdd yr hoffech glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol:

Gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan: Polisi Preifatrwydd. Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Drwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Cau'r Gwefan