Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Yng Nghasnewydd a Blaenau Gwent, rydym yn cynnig grwpiau rhywedd-benodol i ferched, bechgyn a phobl ifanc anneuaidd 11-15 sydd wedi profi neu fod yn dyst i gam-drin domestig.
Mae’r gwaith grŵp hwn yn datblygu hunan-barch, sgiliau cyfathrebu, ac yn cefnogi datblygiad emosiynol (11 i 16 oed), dan arweiniad pobl ifanc ac yn seiliedig ar brosiect grŵp (e.e. ysgol goedwig neu gynhyrchu fideo).
Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn cynnig grwpiau i ferched 11-15 oed ledled Sir Fynwy a Thorfaen sydd yn y gorffennol wedi byw mewn cartref lle roedd perthynas gwael rhwng oedolion.
Mae’r grwpiau cefnogol hyn, a arweinir gan gymheiriaid, yn cyfarfod yn wythnosol am 8 wythnos i weithio ar brosiectau bach celf a chrefft. Mae’r sesiynau yn cynnig cyfle i’r merched wrando a chefnogi ei gilydd, wrth ddatblygu eu dealltwriaeth o berthnasoedd iach.
Mae’r ffocws ar: fynegi ein hunain mewn ffyrdd iach a phriodol, cyfathrebu cadarnhaol, datblygu hunan-barch, gwydnwch a strategaethau ymdopi.
Mae’r grŵp bechgyn yn Sir Fynwy a Thorfaen yn rhan o’n prosiect mentora. Mae grwpiau a arweinir gan gymheiriaid ar gyfer bechgyn rhwng 11 i 16 oed sy’n cyfarfod am 12 wythnos i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol neu yn yr awyr agored. Y nod yw adeiladu ar eu hunaniaeth a’u paratoi i ddatblygu’n ddynion ifanc hyderus, gofalgar.
Prosiect MentoraI atgyfeirio i un o’r gwasanaethau hyn, i wneud ymholiad neu i ddysgu rhagor, ffoniwch ni ar 03300 564456 neu e-bostiwch eich swyddfa leol: