Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae’n hollbwysig cydnabod bod plant a phobl ifanc yn dioddef cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain. Rydym yn helpu plant a phobl ifanc i wneud synnwyr o’u profiadau a symud trwy argyfwng i iachâd trwy ymyriadau diogel, cefnogol sy’n cynnwys cefnogaeth 1:1 a grŵp. Mae gweithgareddau’n cynnwys therapi chwarae, cam-drin plant-i-riant yn y glasoed, grwpiau rhyw penodol, mentora.
Rydym yn cefnogi hyd at 40 o fenywod gyda phlant mewn llochesau ledled Gwent. Mae llochesau teulu yn cynnwys ystafelloedd chwarae, ardaloedd chwarae yn yr awyr agored ac ardaloedd preifat i bobl ifanc yn eu harddegau.
Mae mentora yn cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc i gyfeirio eu hegni i weithgareddau a phrosiectau cadarnhaol. Mae mentoriaid yn cael eu paru gyda phlant yn seiliedig ar eu diddordebau, sgiliau a phersonoliaethau.
Mae ein gwasanaeth cwnsela cam-drin rhywiol ar gael i unrhyw dros 9 oed sydd wedi cael profiad o unrhyw fath o drais rhywiol ar unrhyw adeg o’u bywydau.
Rydym yn cynnig grwpiau rhywedd-benodol i ferched, bechgyn a phobl ifanc anneuaidd 11 i 15 oed sydd wedi profi neu fod yn dyst i gam-drin domestig.
Rydym yn cynnig gwaith grŵp i blant 7 i 11 oed a’u gofalwr nad ydyn nhw’n cam-drin, gyda’r nod o wella cyfathrebu ar ôl i drais domestig ddod i ben.
Mae’r rhaglen Break4Change yn cefnogi teuluoedd i wneud newidiadau cadarnhaol – yn addas i bobl ifanc 11-16 oed gyda’u rhieni/gofalwyr.
wedi profi cam-drin domestig yn eu bywyd
wedi profi cam-drin rhywiol yn eu bywyd
yng Ngwent yn profi digwyddiad o gam-drin domestig bob dydd lle mae’n rhaid galw’r heddlu
Eistedd yma yn crio – mae fy mab ieuengaf wedi bod yn coginio, mae yn ei elfen yn coginio’n hapus! Rydyn ni wedi bod allan am o leiaf 3 awr – yn siarad, chwerthin, jyst cael amser gwerthfawr gyda’r teulu. Ni allaf ddiolch digon i chi. Mae’n wirioneddol anhygoel.