Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae ein llochesau yn le diogel, sy’n cynnig llety croesawgar i unrhyw sy’n dianc rhag trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Mae ein llety lloches yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau ar draws Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy a Blaenau Gwent a’n nod yw diwallu anghenion unigol lle bynnag y gallwn – p’un a ydych yn fenyw ag anabledd, angen lle i blant hŷn neu ag anifeiliaid anwes; nid oes angen i’r rhain fod yn rhwystrau i gyrchu cymorth lloches.
Mae pob un o’n heiddo wedi’i leoli’n agos at siopau a chyfleusterau eraill. Mae’r holl ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n llawn, gyda dillad gwely a thywelion wedi’u darparu, ac rydym hefyd yn cyflenwi pecynnau cychwynnol o bethau ymolchi a bwyd i sicrhau bod gennych yr hanfodion pan fyddwch yn cyrraedd eich cartref dros dro newydd.
Mae lleoliadau ein llochesi yn gwbl gyfrinachol er mwyn sicrhau diogelwch.
Gall ein gweithwyr cymorth ddarparu gwybodaeth am faterion cyfreithiol, lles a thai, yn ogystal â chynnig cymorth emosiynol a gweithgareddau a chymorth i blant.
Mae cyfleoedd hefyd i gael cymorth ychwanegol, gan gynnwys gwaith grŵp a chwnsela, yn ogystal â gweithgareddau creadigol a therapiwtig eraill.
Cymorth emosiynol un i un, gydag amser a lle i ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd a sut y gallai fod wedi effeithio arnoch chi
Cynllunio cymorth a chynllunio diogelwch wedi’i deilwra i’ch anghenion i’ch helpu i gynllunio’ch camau nesaf
Cymorth gyda materion cyfreithiol, megis achosion sifil a throseddol, a materion dal plant
Cymorth ac eiriolaeth gyda thai a sefydlu eich cartref neu denantiaeth newydd pan fyddwch yn ein gadael
Cymorth i gael mynediad at fudd-daliadau lles, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
Mynediad at gwnsela os oes ei angen arnoch
Cefnogaeth ac eiriolaeth gydag unrhyw asiantaethau statudol yr ydych yn gweithio gyda nhw, fel Gofal Cymdeithasol Plant
Gwaith grŵp a gweithgareddau, gan gynnwys y cwrs Own My Life
Atgyfeiriadau a chyfeirio at wasanaethau eraill y gallech fod eu hangen megis gwasanaethau cyfreithiol, sefydliadau cymunedol, gwasanaethau iechyd a lles
Ymweliadau gan weithwyr proffesiynol, fel ymwelwyr iechyd, gofalwyr, gweithwyr plant a gwasanaethau eraill y gallai fod eu hangen ar bobl sy’n aros gyda ni
Mae ein llochesi yn gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Os nad ydych yn teimlo’n ddiogel yn eich cartref, ffoniwch ein rhif 24 awr ar 03300 564456.
Cyn i ni ddarparu lle yn un o’n llochesi, rydym yn cael sgwrs ffôn i sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion yr unigolyn neu’r teulu sy’n ceisio’r cymorth hwn. Byddwn yn siarad â chi am eich anghenion (ac anghenion eich plant), er mwyn ceisio dod o hyd i’r lleoliad gorau i chi. Mae’r pethau y bydd angen i ni eu gwybod yn cynnwys beth sydd wedi digwydd, yr ardal rydych mewn perygl ynddi, (lle mae’r troseddwr a’i deulu’n byw), unrhyw anghenion mynediad neu gymorth sydd gennych, ac unrhyw beth arall sy’n ein helpu i ddeall beth sydd ei angen arnoch i fod yn ddiogel.
Os nad oes lle ar gael mewn lloches, neu os ydym yn teimlo na fyddech yn ddiogel yno (os, er enghraifft, mae eich partner yn dod o’r ardal), yna byddwn yn dod o hyd i le i chi mewn lloches arall lle byddwch yn ddiogel.
Rydym yn cynnig mwy na 50 o unedau llety ar draws ystod o wahanol eiddo yn Nhorfaen, Casnewydd, Sir Fynwy a Blaenau Gwent. Gallwch weld rhai o’r opsiynau hyn yn ein Teithiau Lloches 360°.
Mae gennym dri eiddo, gyda staff 24/7, sy’n gallu lletya merched ag anghenion cymhleth.
Gall ein llochesi teulu ymroddedig ddarparu ar gyfer hyd at bum teulu ym mhob eiddo. Mae gan bob teulu eu hystafell breifat eu hunain, yn ogystal â mannau cymunedol gan gynnwys ystafelloedd chwarae, ceginau a mannau bwyta, ystafelloedd byw a gerddi.
Mae ein fflatiau un ystafell wely ‘gwasgaredig’ yn cynnig llety hunangynhwysol i deulu bach neu ferched sengl.
Gall ein fflat un ystafell wely ym Mlaenau Gwent hefyd letya dynion sengl.
Mae ein fflatiau dwy ystafell wely ‘gwasgaredig’ yn cynnig llety hunangynhwysol i deuluoedd neu fenywod sengl.
Mae ein lloches ym Mlaenau Gwent yn cynnig 6 uned hunangynhwysol ar gyfer merched sengl neu deuluoedd, gyda mannau cymunedol ychwanegol a gardd. Mae staff yn yr eiddo 24/7 a gall letya merched ag anghenion cymhleth, yn ogystal â theuluoedd gyda hyd at 6 o blant.
Mae ein tai aml-ddefnydd yn cynnig hyblygrwydd i gefnogi merched sengl, aelwydydd lluosog neu deuluoedd mwy, yn dibynnu ar anghenion yr unigolion.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o lety symud ymlaen i fenywod a’u plant, i gefnogi’r trosglwyddiad o loches i lety tymor hwy.
Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi amrywio ein hopsiynau lloches, mewn ymateb i anghenion unigolion a theuluoedd:
Menywod sengl
Menywod gyda phlant
Menywod ag anghenion symudedd/anabledd
Menywod ag anghenion cymhleth
Menywod yn symud ymlaen o loches
Menywod sy’n gweithio
Menywod gyda phlant hŷn
Menywod â chyfrifoldebau gofalwyr/gofalu
Menywod gyda theuluoedd mawr
Menywod ag anifeiliaid anwes
Menywod yn cael eu hecsbloetio gan y diwydiant gwaith rhyw
Menywod trawsryweddol
Gall ein staff cymorth gynnig cyngor drwy 03300 564456 yn ystod oriau swyddfa (Llun-Gwen 09:30am-04:30pm). Y tu allan i oriau swyddfa, gellir defnyddio ein rhif ffôn i gyrchu gwybodaeth a chyngor mewn argyfwng.
Rydym yn deall bod goroeswyr yn aml yn gorfod gadael eu cartrefi ar frys ac nad ydynt yn gallu dod â llawer o bethau gyda nhw. Byddwn yn eich helpu trwy ddarparu nwyddau ymolchi a pharsel bwyd pan fyddwch yn cyrraedd y lloches, a gallwn hefyd eich helpu i gael dillad ac eitemau eraill y gallai fod eu hangen arnoch.
Os gallwch chi (ac mae’n ddiogel gwneud hynny), ceisiwch ddod â’r pethau canlynol gyda chi pan fyddwch yn gadael eich cartref:
Mae’r Cynllun Rheilffordd i Loches yn darparu teithiau trên am ddim i oroeswyr sy’n ffoi rhag cam-drin domestig. Gallwn hefyd archwilio opsiynau eraill yn seiliedig ar eich anghenion.
Gall ein llety lloches dderbyn gwrywod i’w heiddo hyd at 16 oed, ond gall fod opsiynau eraill ar gael i deuluoedd a allai ddod o fewn y categori, lle mae ganddynt blentyn gwrywaidd sy’n hŷn na hyn. Mae gennym unedau gwasgaredig sy’n eiddo ar eu pen eu hunain yn y gymuned, sy’n gallu lletya teuluoedd sydd â phlant gwrywaidd hŷn sy’n ffoi rhag cam-drin domestig.
Os yw eich plentyn dros 18 oed ac angen cymorth, efallai y bydd yn gallu cael lloches yn ei rinwedd ei hun.
Mae anifeiliaid anwes yn ddarostyngedig i reolau a pholisïau pob un o’n heiddo llochesi unigol. Gwyddom y gall pryderon ynghylch gadael anifeiliaid anwes ar ôl fod yn rhwystr i ystyried lloches. Lle na all anifeiliaid anwes gael eu lletya gyda menyw, mae gennym gysylltiadau â gwasanaethau maethu anifeiliaid anwes lleol a allai ddarparu cartrefi dros dro i anifail anwes nes y bydd eu perchennog yn gallu cael ei ailuno â nhw.
Bydd eich plant yn cael eu cofrestru mewn ysgol sy’n lleol i’r lloches. Mae’r Awdurdod Addysg Lleol wedi arfer â theuluoedd sy’n byw yn ein llochesi sy’n cofrestru ar gyfer lleoedd ysgol.
Bydd eich gweithiwr cymorth yn eich cynorthwyo i wneud cais am fudd-daliadau, gan gynnwys Budd-dal Tai. Byddwch wedyn yn talu ‘tâl personol’; sef eich rhent, a bydd gweddill y gost rhent yn dod o dan Fudd-dal Tai.
Gall yr amser y mae merched yn aros mewn lloches amrywio. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i’ch cartref newydd parhaol ar gyflymder sy’n addas i chi/a’ch teulu.
Nid oes gwahaniaeth a yw eich camdriniwr yn wryw neu’n fenyw, byddwn yn cynnig llety i chi os yw’n briodol.
Gallwn gynnig opsiynau i chi i’ch galluogi i wneud dewisiadau. Mae gennym eiddo gwasgaredig sy’n addas ar gyfer dyn a gallwn hefyd gysylltu â sefydliadau eraill a all eich cefnogi i ddod o hyd i ddiogelwch.
Ydy. Rydym yn cefnogi pobl i gael eiddo sy’n addas i’w hanghenion. Os yw’r eiddo hwnnw mewn ardal y mae Cyfannol yn darparu cymorth ‘fel y bo’r angen’ sy’n ymwneud â thai ynddi, gallwn gynnig cymorth ar y sail honno; os bydd unigolyn yn symud i ardal arall, byddwn yn gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau cam-drin domestig yn yr ardal honno. Nid oes rhaid i bobl gael cymorth ar ôl gadael lloches, ond mae’r cymorth yno os oes ei angen arnynt.
Yn ein llochesi amlfeddiannaeth, mae preswylwyr yn mwynhau ystod o weithgareddau cadarnhaol sy’n cynnwys cyrsiau, sesiynau lles, a theithiau i oedolion a phlant fel y gallwch ymlacio, dysgu sgiliau newydd, a threulio amser gydag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg.
Mae gennym ni ‘Siediau Therapi’ ar dir rhai o’n llochesi, sy’n darparu gofod pwrpasol ar gyfer gweithgareddau, gwaith grŵp a llesiant.