Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae’r cwrs Own My Life yn rhaglen addysg newydd arloesol a chreadigol wedi’i chynllunio i alluogi menywod i gymryd rheolaeth dros eu bywydau yn ôl ar ôl cael eu cam-drin.
Mae’r cwrs yn helpu menywod i wneud synnwyr o’r hyn sydd wedi’i wneud iddynt, darganfod eu cryfderau a datblygu’r sgiliau i symud ymlaen.
Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn creu lle diogel i fenywod gwrdd â’i gilydd i gwblhau’r cwrs.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer menywod sy’n delio â:
I fynychu’r cwrs ar-lein, mae’n rhaid bod menywod wedi gwahanu â’r (a bod yn byw ar wahân i’r) partner sydd wedi eu brifo.
Nod y cwrs yw addysgu a grymuso menywod sydd wedi cael eu cam-drin i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hun yn ôl.
Mae’r rhaglen 12 wythnos hwn wedi’i chynllunio i fod yn rhyngweithiol, gyda llawer o fideos byr, cwisiau, a thrafodaeth. Mae’r cwrs yn defnyddio cynnwys amlgyfrwng i egluro cysyniadau cymhleth am drawma a cham-drin mewn clipiau fideo hawdd eu deall, ynghyd â fideos sy’n archwilio themâu fel amarch mewn perthnasoedd, ymddygiad ymosodol, rhywiaeth a gwreig-gasineb.
Mae’r cwrs yn archwilio sut y gall menywod cymryd rheolaeth dros ein bywydau yn ôl gan gynnwys cymryd rheolaeth dros ein meddwl, corff, dewisiadau, perthnasoedd, byd, teimladau.
Mae’r Dyddiadur Rheolaeth Dros Fy Mywyd yn darparu lle i fenywod ar gyfer ymarfer myfyriol ac mae’n cynnwys yr holl wybodaeth a ddarperir drwy gydol y cwrs. Daw hwn yn adnodd parhaus i fenywod ar ôl i’r cwrs ddod i ben.
Am ragor o wybodaeth am Own My Life, gan gynnwys geirdaon gan fenywod sydd wedi cwblhau’r cwrs, ewch i:
Waw! Rwy’n teimlo fel ei weiddi o bennau’r tai: Does dim o’i le gyda mi; digwyddodd rhywbeth o’i le i mi – rydw i’n mynd i ysgrifennu hwnna a’i roi ar fy wal!
Defnyddiwch y ffurflen hon i gyfeirio at y Gwasanaethau Cymorth Cymorth i Fenywod Cyfannol.
Os ydych chi/yr unigolyn sy’n cael ei atgyfeirio yn ceisio lloches neu angen cymorth mewn argyfwng ar unwaith, ffoniwch Cymorth i Fenywod Cyfannol yn uniongyrchol ar 03300 564456.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Bydd pob atgyfeiriad yn derbyn ymateb o fewn 72 awr.