Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Gweld ein gwasanaethau yma.
Gweld ein prosiectau yma.
Darllenwch eu hanesion yma.
“Ar ôl mynd i grwpiau cymorth Cymorth i Fenywod Cyfannol, rwy’n dechrau delio â’r hyn a ddigwyddodd i mi. Gyda help y menywod yn Cyfannol, rwy’n dechrau ail-adeiladu fy mywyd a dysgu sut i garu fy hun eto”
Diolch gan bawb yn Cymorth i Fenywod Cyfannol!
Beth am danysgrifio i’n newyddlenni misol sydd wedi’u hanelu at bawb sydd eisiau cadw mewn cysylltiad â ni a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith a’r sector rydym yn gweithio ynddo?
Oeddech chi’n gwybod pryd bynnag y byddwch chi’n prynu unrhyw beth ar-lein – o’ch siop fwyd i’ch gwyliau blynyddol – y gallech fod yn codi rhoddion am ddim i Cymorth i Fenywod Cyfannol gyda EasyFundraising?
Mae anfon cerdyn cyfarch traddodiadol yn costio amser, arian, a’n planed. Gallwch bellach gefnogi Cymorth i Fenywod Cyfannol wrth anfon e-gardiau at eich anwyliaid – drwy Don’t Send Me A Card. Croesawir unrhyw roddion.
Bob blwyddyn, rydym yn cefnogi miloedd o bobl, llawer ohonyn nhw’n awyddus i rannu eu storïau er mwyn rhoi gwybod i eraill sut beth yw e. Rydym hefyd yn clywed yn rheolaidd gan y rhai sydd wedi elwa’n fawr o roddion fel eich un chi.
Heb gyfraniadau fel eich un chi, ni fyddai Cyfannol yn bodoli. Rydym am i chi fod yn hyderus yn yr effaith y mae eich cyfraniadau yn ei chael. Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch ein hariannu a’n rheolaeth.
P’un a ydych yn rhedeg eich marathon cyntaf, yn pobi, yn mynychu digwyddiad arbennig neu’n codi arian yn yr ysgol – mae gennym ni bopeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo a byddwn yma i’ch cefnogi ar hyd y ffordd.
Rydym bob amser yn hapus i helpu os ydych yn cysylltu â ni yn fundraising@cyfannol.org.uk neu dros y ffôn ar 03300 564456 a gofyn am gael siarad â’n tîm codi arian.