Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn arbenigo mewn cefnogi menywod a merched sydd wedi cael profiad o unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a/neu drais rhywiol. Ein gweledigaeth yw bod “Pawb yn cael eu grymuso i ffynnu mewn bywyd sy’n rhydd o gam-drin domestig a thrais rhywiol”.
Mae Cyfannol yn credu bod byd heb gam-drin domestig a thrais rhywiol yn un i anelu ato. Rydym yn credu y dylai pob goroeswr o gam-drin a thrais dderbyn gwasanaethau yn ystyriol o drawma sy’n cael eu harwain gan bobl.
Rydym yn cydnabod bod cam-drin a thrais rhywiol yn bennaf yn cael eu cyflawni yn erbyn menywod a bod VAWDASV yn fater sy’n seiliedig ar rywedd ac yn achos a chanlyniad anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Fel elusen, ein rôl allweddol felly yw cefnogi menywod a phlant i ddianc rhag camdriniaeth a thrais, adfer o’u profiadau ac i ffynnu mewn bywyd lle nad yw trais a chamdriniaeth bellach yn digwydd iddynt. Adlewyrchir yr ideoleg hon yn enw, cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd ein helusen.
Gall Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol effeithio’n negyddol ar iechyd corfforol, meddyliol, rhywiol ac atgenhedlu, ac yn aml mae’n cael effeithiau sy’n para am oes.
Gall VAWDASV arwain at laddiad, anafiadau sy’n newid bywydau, mwy o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac ymddygiad troseddol. Mae hefyd yn arwain at deimladau o arwahanrwydd, iselder a straen wedi trawma.
Gall plant sy’n cael eu heffeithio gan gamdriniaeth brofi amrywiaeth o anawsterau ymddygiadol ac emosiynol ac maent yn fwy tebygol o brofi neu gyflawni trais yn ddiweddarach mewn bywyd. Efallai y bydd ganddynt lai o ymdeimlad o hunanwerth ac yn ymddwyn yn ymosodol neu’n mewnoli eu gofid a mynd i’w cragen i ffwrdd o bobl eraill.
Gwyddom fod goroeswyr VAWDASV yn elwa ar ymyriadau sy’n ystyriol o drawma ac sy’n cael eu harwain gan unigolion ac y gall y rhain fod yn hanfodol i’w helpu i wella o’u profiadau.
Mae ein cymorth yn sensitif i drawma, yn rhoi anghenion goroeswyr yn gyntaf, yn helpu unigolion i adnabod eu cryfderau eu hunain, ac yn canolbwyntio ar rymuso ac annibyniaeth hirdymor:
Grwpiau cymorth teuluoedd a chymheiriaid sy’n dod â phobl gyda phrofiadau a rennir ynghyd i gefnogi ei gilydd
Gweld y gwasanaethProsiect arbenigol ar gyfer oedolion a phobl ifanc sy’n profi camfanteisio rhywiol neu ariannol ar hyn o bryd, neu sydd mewn perygl ohono.
Gweld y gwasanaethRhaglen 12 wythnos sy'n helpu goroeswyr, sydd mewn sefyllfa i gymryd rhan mewn grŵp, i ddod i brosesu eu profiadau a datblygu strategaethau ffordd o fyw ac ymdopi cadarnhaol.
Gweld y gwasanaethRhaglen 12-wythnos sy'n helpu cyfranogwyr i ddeall effaith cael profiad o gam-drin domestig.
Gweld y gwasanaeth