Am gymorth ar unwaith ar unrhyw adeg, ffioniwch ni ar 03300 564456 (24 awr)
Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn arbenigo mewn cefnogi menywod a merched sydd wedi cael profiad o unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a/neu drais rhywiol. Ein gweledigaeth yw bod “Pawb yn cael eu grymuso i ffynnu mewn bywyd sy’n rhydd o gam-drin domestig a thrais rhywiol”.
Ein cenhadaeth yw darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu harwain gan unigolion ac sy’n ystyriol o drawma ledled Gwent, i unrhyw berson, yn enwedig menywod neu blant, sydd wedi profi unrhyw fath o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol, waeth beth fo’u hanghenion a’r sawl anfantais y maent yn eu hwynebu.
Ers ein sefydlu ym mwrdeistref sirol Torfaen yn y 1970au, mae Cyfannol wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, o ran maint a chwmpas.
Bellach ni yw’r sefydliad Cymorth i Fenywod cysylltiedig mwyaf yng Nghymru, yn cwmpasu Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen ac ardal ehangach Gwent.
Mae newid ein henw yn 2015 i Cymorth i Fenywod Cyfannol nid yn unig yn dystiolaeth o’n dull o ddarparu gwasanaethau, ond mae hefyd yn dangos pa mor falch ydym i ddarparu gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru.
Grymuso
Uniondeb
Hunanymwybyddiaeth
Cydweithredu
Gwydnwch
Ymroddiad
Rydym yn elusen sy’n seiliedig ar brofiadau byw; mae ein gwasanaethau’n cael eu cydgynhyrchu â’r rhai sy’n eu defnyddio. Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am gael gwared ar y rhwystrau i’n gwasanaethau, gan ymdrechu’n gyson i fod mor hygyrch â phosibl.
Rydym yn cyflawni ein cenhadaeth drwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys:
Grwpiau cymorth teuluoedd a chymheiriaid sy’n dod â phobl gyda phrofiadau a rennir ynghyd i gefnogi ei gilydd
Gweld y gwasanaethProsiect arbenigol ar gyfer oedolion a phobl ifanc sy’n profi camfanteisio rhywiol neu ariannol ar hyn o bryd, neu sydd mewn perygl ohono.
Gweld y gwasanaethRhaglen 12 wythnos sy'n helpu goroeswyr, sydd mewn sefyllfa i gymryd rhan mewn grŵp, i ddod i brosesu eu profiadau a datblygu strategaethau ffordd o fyw ac ymdopi cadarnhaol.
Gweld y gwasanaethRhaglen 12-wythnos sy'n helpu cyfranogwyr i ddeall effaith cael profiad o gam-drin domestig.
Gweld y gwasanaethNac oes. Gallwch gysylltu â ni ar 03300 564456 i hunan-atgyfeirio i’n gwasanaethau. Nid yw’n ofynnol ymgysylltu ag unrhyw asiantaeth neu fathau eraill o gymorth, na rhoi gwybod am y cam-drin yr ydych wedi’i brofi.
Mae ein Gwasanaethau Trais Rhywiol ar gael i bobl o bob rhyw.
Er ein bod yn arbenigo mewn cefnogi menywod a phlant, mae rhai o’n gwasanaethau cymorth hefyd yn agored i bawb, lle mae gwasanaethau’n cael eu comisiynu ar y sail hon. Mae hyn yn cynnwys ein gwasanaethau cymorth Blaenau Gwent a’r prosiect Allgymorth Pendant, sy’n darparu cymorth argyfwng ochr yn ochr â’r heddlu. Mae pob cefnogaeth yn cael ei gynnig yn amodol ar asesiadau risg ac anghenion, ac ar sail bod unigolion yn teimlo bod ein gwasanaethau’n addas iddyn nhw.
Mae ein gwasanaethau menywod yn cynnwys menywod cisryweddol, menywod trawsryweddol a phobl anneuaidd a neilltuwyd yn fenywaidd ar enedigaeth. Mae pob cefnogaeth yn cael ei gynnig yn amodol ar asesiadau risg ac anghenion, ac ar sail bod unigolion yn teimlo bod ein gwasanaethau’n addas iddyn nhw.
Gall trais a cham-drin effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys dynion a bechgyn. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod dros 90% o drais a cham-drin yn cael ei brofi gan fenywod a merched dan ddwylo dynion (SYG 2020).
Mae’n bwysig inni ganolbwyntio ar yr anghymesuredd hwn fel y gallwn herio a newid agweddau sy’n caniatáu i drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched barhau.
Pan fyddwn yn canolbwyntio ar drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched rydym yn gallu cydnabod sut mae pŵer a rheolaeth yn gweithredu mewn perthnasoedd agos neu deuluol, a sut mae hyn yn niweidiol i ddynion, menywod, merched a bechgyn.